Ond mae goleuni; cynulliad hinsawdd cyntaf Dyffryn Nantlle

Argraffiadau Mari Ireland, aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle o’r Cynulliad cyntaf yn mis Mehefin

gan Elan G Muse

Gyda’r haf daw’r gobaith am dywydd braf. Siawns i ddiogi ar lan y môr, neu fynd am dro gyda’r nos.  Ond wrth i ni wynebu’r tymheredd uchaf yn ein hanes yma yng Nghymru ac ar draws y byd, rydym yn cael ein hatgoffa o’r heriau sydd yn ein gwynebu yn sgil yr argyfwng newid hinsawdd.  Braint oedd felly, dros ddwy noswaith braf ym mis Mehefin, mynychu Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle yn Ganolfan y Fron.  Dros 50 o drigolion y fro wedi ymgynnull gyda’r un nod, yr un meddylfryd sef trafod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn ein cymunedau i  warchod ein hetifeddiaeth amgylcheddol.

Ymunodd Mari Huws, Warden Ynys Enlli dros y wê i rannu ei phryderon o ran newid hinsawdd yn sgil ei phrofiadau wrth iddi deithio o amgylch y byd yn gwneud rhaglenni dogfen.  Yn dilyn, bu trafodaeth ymysg aelodau’r cynulliad am y newidiadau hinsawdd yr ydym wedi arsylwi dros y blynyddoedd.  Gwyntoedd cryfach yn chwythu o gyfeiriadau anghyffredin, gaeafau cynhesach a gwlypach ac wrth gwrs tymhereddau anghyffredin uchel yn ystod yr haf.  Efallai mai un o’r pryderon mwyaf oedd yn cael ei ddatgan oedd y gost wrth geisio byw’n fwy gwyrdd.  Rydym wedi gweld cynnydd syfrdanol yn ein costau byw a nifer yn ein cymunedau’n dioddef o dlodi’n barod oherwydd cyflogau isel.  O ganlyniad, mae’r gost o newid i dechnoleg a nwyddau mwy gwyrdd er mwyn lleihau ein costau byw a’n dibyniaeth ar danwyddau ffosil a gwarchod ein hamgylchedd y tu hwnt i gyrraedd y werin.  Fel y mae’n sefyll, heb ymrwymiad ariannol a pholisïau radical gan ein llywodraethau, ni fydd y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn ymateb i’r heriau amgylcheddol, yn cael eu cyflawni gan y busnesau mawr nac ar lawr gwlad.

Ond mae goleuni.  Fel aelod brwd o Senedd Cwmni Bro Antur Aelhaearn 1974, cwmni cydweithredol gyntaf ym Mhrydain, yr hyn a’m trawodd i wrth eistedd a gwrando, oedd y tebygrwydd o ran gweledigaeth o’r hyn sydd ei angen i ni ei wneud a’r hyn sy’n digwydd yn barod ar hyd a lled gogledd Cymru.  Roedd teimlad o obaith  wrth weld cynifer o unigolion yn barod i weithredu er mwyn gwarchod ein hamgylchedd a’n hetifeddiaeth.  Yn ystod y cynulliad clywsom am fenter gymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes.  Wrth fynd i’r afael ag anghenion eraill fel lleihau unigrwydd, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a lleihau’r baich o ran costau byw maent, fel cymunedau eraill , yn gynyddol warchod yr amgylchedd.  Daw hyn drwy gynlluniau llogi beiciau, ceir a bysus mini trydan sy’n gwasanaethu mewn ardaloedd ble nad oes trafnidiaeth gyhoeddus gyson.  Yn ogystal, gwelwn fwy o erddi a choedlannau cymunedol yn cael eu creu er mwyn bwydo’r corff drwy dyfu bwyd iach a fforddiadwy a hefyd bwydo’r ysbryd trwy ein hailgysylltu â natur.  Yn ganlyniad, mae’r prosiectau hyn a’r potensial o leihau tlodi, cryfhau iechyd corfforol a meddyliol, gwellhau lles yn ogystal â lleihau’n ôl troed carbon.

Ond megis dechrau yw hyn.  Rhaid i’n cymunedau barhau i weithredu a gwneud y pethau bach er mwyn cefnogi’r chwildro cydweithredol gwyrdd.  Dyma obaith y cynulliad.  Diogelu ein cynefin, ein gwlad a’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mari Ireland

Aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle

I ddarllen rhagor am y cynulliad ac i wylio’r cyflwyniadau a gafwyd yn y cynulliad ewch draw i www.gwyrddni.cymru a gallwch ddilyn GwyrddNi ar y cyfryngau cymdeithasol.