Y Wal Goch

Adolygiad

angharad tomos
gan angharad tomos

Y Wal Goch gan Ffion Eluned Owen, Y Lolfa, £9.99

Nid fi yw cynulleidfa darged y llyfr hwn. Dydw i erioed wedi darllen llyfr peldroed yn fy mywyd – tan rwan. Ond mae hwn yn llyfr am gymaint mwy na pheldroed.

Gan ymddangos bythefnos cyn y gem gyntaf yn Quatar, mae ei gyhoeddi yn amserol iawn. Gyda ei diddordeb ysol yn y gem, a’i chefndir llenyddol, roedd yn addas iawn mai Ffion olygodd y gyfrol hon. Mae wedi gwahodd cyfranwyr o bob carfan bosib. Mae yna gyfraniadau gan feirdd, gan rai sy’n ymddiddori mewn ffasiwn, hanes, miwsig, rhywedd, ystadegau, gwleidyddiaeth – a pheldroed. A’r hyn sy’n gwneud y gyfrol yn gymaint difyrrach yw’r ystod da o luniau ac o ddyfyniadau gan bob math o wahanol bobl.

Fel dywed Siriol Teifi, “Cariad at Gymru. Cariad at ein gwlad, ein hiaith a’n diwylliant.” Dyna ystyr cefnogi tim Cymru. A does dim dwywaith fod yna rhywbeth arbennig iawn ar droed. Fel dywed Dafydd Iwan am y ‘don o frwdfrydedd cenedlaethol iachus ac afieithus’…’Cenedlaetholdeb sifig cenedl fach’ a fynegir, ‘heb ronyn o gasineb yn perthyn iddo, a heb ronyn o awydd i dra-arglwyddiaethu dros neb arall. Yn hytrach, mae’n fynegiant o’n penderfyniad i oroesi pob ymgais i’n bwlio allan o fodolaeth. Mae’n emosiwn cwbl gadarnhaol sy’n cael gwared a’r hen waseidd-dra a’n llethodd cyhyd fel Cymry.’

Lansiwyd y llyfr yn Pant Du, Penygroes ar Dachwedd 7ed, yr un dydd a lansio fideo swyddogol Yma o Hyd, can swyddogol Cymru yng Nghwpan y Byd. Cawsom glywed sut mae peldroed yn ddiweddar wedi agor y drws i’r Gymraeg i bobl ar draws Cymru. Mae pobl eisiau dysgu’r Gymraeg bellach, maent yn teimlo rhyw falchder newydd ynddi a gallwn i gyd ymfalchio yn hynny.

Rhai o gyfraniadau’r merched wnaeth yr argraff fwyaf arnaf i. Dwi’n perthyn i genhedlaeth o blant Ysgol Dyffryn Nantlle pan mai rhywbeth i fechgyn yn unig oedd peldroed. Meddai Gwennan Haries, “Mae mor bwysig ein bod yn normaleiddio bois yn mynd i weld gemau merched, a stopio meddwl amdano fel pel-droed dynion a phel-droed merched. Pel-droed Cymru yw e.”

Un dyfyniad i orffen, a hwnnw o erthygl hynod ddifyr Penny Miles wrth drafod rhywedd ymysg cefnogwyr. Mae’n dyfynnu o draethawd Jennifer Thomson, ‘This  sense that nationalism is a masculine terrain in which women have little agency is also seen in the difficulties that female voices and feminist demands have when attempting to be incorporated within nationalist identity or struggles. Women’s rights are often understood to be second in line to the bigger picture of national struggles.’

Mae’n llyfr sy’n cynnwys cynifer o leisiau, ond un weledigaeth. Llyfr amserol, a wna i ddim ei argymhell fel anrheg Nadolig. Yr amser i ddarllen y llyfr hwn yw rwan! Mae’n gyfraniad pwysig i’r drafodaeth ar annibyniaeth.