Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Gwaed newydd i Ddyffryn Nantlle

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw

Ar Goedd
gan Ar Goedd
84af661b-66a2-4f74-9587

Llio Elenid Owen a Siân Gwenllian

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, a pha well diwrnod i ddathlu ein merched lleol?

 

Mae Etholiadau Cyngor Gwynedd ar y gorwel, ac mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu’n ffurfiol 7 o ferched lleol fydd yn sefyll am y tro cyntaf fis Mai.

 

Ymhlith y 7 mae ymgeisydd dros ward Groeslon, Llio Elenid Owen.

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

 

“Yn Etholiadau Cyngor Gwynedd yn 2017, roedd cynnydd o 18% yn y ganran o ddynion 45-65 oed a etholwyd.

 

“Ledled Cymru, dim ond 29% o gynghorwyr sy’n fenywod.

 

“Ond, wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae lle i fod yn bositif.

 

 “Fe redon ni ymgyrch bwrpasol wedi’i thargedu’n lleol, gyda’r gobaith o ethol mwy o ferched ym mis Mai, ac mae’n bleser gen i groesawu 7 o ymgeiswyr benywaidd deinamig mewn seddi allweddol.

 

 “Maen nhw’n ferched sy’n perthyn i’w bröydd lleol, ac yn weithgar yn eu hardaloedd.”

Mae Llio yn dod o’r Groeslon ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Golygydd Creadigol i Wasg Carreg Gwalch, ac yn ôl Llio “mae lles y gymuned yn hollbwysig” iddi.

Mae’n gwirfoddoli gyda’r Orsaf a Ffrindiau Groeslon ac mae’n eistedd ar Bwyllgor Apêl y Groeslon ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.