Diwrnod hanesyddol

Y daith gyntaf yn y bws mini trydan

angharad tomos
gan angharad tomos

Am y tro cyntaf – ar Fai 23, 2022, – defnyddiwyd bws mini trydan Yr Orsaf. Y teithwyr dewr oedd plant Ysgol Bro Lleu. Taith arbennig oedd hi, wedi ei threfnu gan Yr Orsaf, i ymweld a Llyn Nantlle efo prosiect Llun y Llyn. Gan Gwenllian Spink cawsant weithdy ar gampwaith Richard Wilson, yr artist o Gymru a beintiodd y llun ‘Snowdon from Llyn Nantlle’ ym 1766, ddau gant a hanner o flynyddoedd yn ol. Cafodd y llun ddylanwad ar artistiaid eraill megis Turner ac eraill. Mae’r llun i’w weld yn Oriel Walker yn Lerpwl (ond mae lluniau plant Bro Lleu yn werth ei gweld hefyd).