Diwrnod i’r Brenin!

Digwyddiad cyntaf Gardd Wyllt Penygroes

angharad tomos
gan angharad tomos

Os ydych ym Mhenygroes bnawn Iau nesaf, Mehefin 2il, mae digwyddiad difyr yn yr Ardd Wyllt, wrth y gylchfan ger y Co-op. Mae’r tir hwn wedi cael ei esgeuluso dros yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae criw Yr Orsaf dan Gwenllian Spink wedi torchi eu llewys i wella’r lle.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwirfoddolwyr wedi cael gwared o’r tyfiant mawr, wedi chwynnu, ac mae plant Ysgol Dyffryn Nantlle wedi codi caban helyg. Wrth i’r tywydd gynhesu, braf yw gweld y caban yn deilio, a bellach mae ganddo goron o ddail sy’n prysur dyfu. Ail-ddefnyddiwyd brics i greu gardd lysiau, ac mae blodau gwyllt wedi eu plannu hwnt ac yma. Ar bnawn Iau bydd digwyddiad cyntaf yr Ardd Wyllt yn cael ei gynnal ac mae croeso i unrhyw un alw heibio.

P’un ai oes gennych chi ardd eich hun neu beidio, mae hi bob tro yn braf treulio amser mewn gardd arall. Pobl Dyffryn Nantlle pia’r ardd hon, ac mae’r haul am wenu ddydd Iau.

Bydd cawl am ddim i bawb am 1.00, ac yna gweithgareddau gwahanol bob awr. Am 2pm bydd gweithdy ffeltio, am 3pm bydd cyfle i wehyddu helyg ac am 4pm bydd bwrdd picnic yn cael ei beintio. Bydd cyfle  rannu hadau a phlanhigion, a’r gobaith yw y bydd yn gyfle i bawb ymlacio.

Os na allwch ddod draw ddydd Iau, bydd sesiynau wythnosol i wirfoddolwyr bob bore Mercher.