Diwadd cyfnod tîm dan 16 CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

⚽Diwedd cyfnod⚽

Ar ôl dros ddeg mlynedd gyda’i gilydd gafwyd tîm dan 16 y clwb ei noson wobrwyo olaf wythnos diwethaf. Hoffai’r clwb ddiolch o waelod calon i Chris a Martin am roi oriau i’r tîm dros y blynyddoedd a chefnogaeth ddiddiwedd y rhieni heb anghofio ymdrech arbennig y chwaraewyr. Mae wedi bod yn bleser gweld chwaraewyr talentog yn datblygu ac yn gwisgo’r cit glas a gwyn.

Dyma eiriau gan Chris Morgan?

“10 mlynedd wedi mynd heibio yn sydyn iawn, mae hi wedi bod yn bleser gweld pob un o’r ogia yn tyfu ag datblygu. Wedi cael rywfaint o lwyddiant, ag gennai dim ond balchder o’r ymdrech gan bawb.

Diolch i Martin Hughes am yr holl help ac wrth gwrs i’r rhieni am y gefnogaeth ddiamheuol drost y blynyddoedd.

Diolch mawr hefyd i Atro, Express Motors a EH Ellis am noddi’r tîm.

Pob lwc i’r ogia syn symud ymlaen i chwarae ail timau lleol, edrych ymlaen at weld nhw yn chwarae ar y circuit seniors.”

Cofiwch mai bob amser groeso i chi yn gae fêl a phob lwc i chi gyd ar eich cam nesaf.

Diolch yn fawr iawn i bawb am eich holl waith caled?

#CmonyFêl #CPDNantlleVale