Dathlu 80 mlynedd

Sioe Arddio Y Groeslon

Ceridwen
gan Ceridwen

Ym mis Awst eleni cynhaliwyd Sioe arbennig iawn yn Neuadd Pentref Y Groeslon. Hon oedd yr 80ain Arddangosfa Flynyddol o Flodau, Llysiau, Celf a Chrefft. Wrth gwrs y Sioe mae pawb yn ei galw o dydd i ddydd ac mae mwy o lawer iddi na blodau ysblennydd.

Nôl yn Chwefror 1941 ffurfiwyd Pwyllgor i sefydlu Clwb Garddio Y Groeslon ac wedyn pob aelod or Clwb yn talu swllt fel tal aelodaeth. Yn yr Arddangosfa gyntaf ym Medi 1941 cynnyrch gardd yn unig a ddangoswyd. Roedd Sioe Aeaf ar un adeg i arddangos Blodau Mihangel.

Ond y Sioe ddiwedd Awst oedd yn dathlu eleni ac roedd yn Sioe werth chweil fel pob un, diolch i holl waith caled y swyddogion ar hyd y blynyddoedd. Mae Cwpanau a Tarianau i bob categori gyda Chwpan Schofield am y mwyaf o bwyntiau yn y Sioe. Yr enillwyr eleni oedd Bertwyn a Janet Williams, ac nol ym 1941 Mr Arthur Jones Ty Capel Brynrhos. Ymysg yr enillwyr eraill eleni roedd Delia Harrison yn yr Adran Goginio ac Evelyn Williams am y gosod blodau. Enillydd y mwyaf o farciau yn Adran y Plant oedd Erin Medi.

Roedd nifer helaeth o waith llaw yn Ystafell Snwcer Y Neuadd ac aeth y Cwpan am y Gorau yn Adran Celf a Chrefft i Marian Jones. Roedd digon o grefftau i lenwi dau fwrdd snwcer, a mwy, a hwn oedd fy ffefryn personol i o Adran y Plant.

Ar y diwrnod cyflwynwyd Cacen hyfryd i’r Pwyllgor i nodi’r achlysur , wedi ei choginio ac addurno gan Marie. Cafodd pawb oedd yn bresennol damed o’r gacen a blasus iawn oedd hefyd. Yn ystod y sgwrsio yn y  pnawn daethom i ddeall  fod dathliad  80 arall newydd fod, sef pen-blwydd Mrs Meinir Owen o’r pentref . Dyma hi gyda’r Ysgrifennydd Mrs Gwyneth Matthews o flaen Cwpanau y Sioe.

 

Roedd yn ddiwrnod braf iawn yn Y Groeslon ar y dydd Sadwrn yma yn Awst 2022. Ar ôl colli dwy flynedd o’r Sioe roedd pawb wedi mwynhau pnawn allan, sgwrsio, gweld cynnyrch gwych, a dathlu hir oes ein Sioe bentref.