Darlith y Llyfrgell

Len Jones yn trafod Lleu

angharad tomos
gan angharad tomos

Braf oedd bod yn ol yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle i glywed Len Jones, Y Groeslon, yn traddodi Darlith Llyfrgell Penygroes 2022 (er ei fod yn aros ei gyfle ers 2019!). Teitl y ddarlith oedd ‘Lleu ac ambell un o’r Lleill’, sef olrhain hanes y papurau bro, gan ganolbwyntio yn benodol ar Lleu.

Syndod meddwl fod bron i hanner canrif wedi mynd ers sefydlu’r papur bro cyntaf, a bod 57 ohonynt drwy Gymru gyfan. Tueddwn i’w cymryd yn ganiataol, ond i lawer o bobl, dyma’r prif ddeunydd darllen yn Gymraeg o fis i fis. Mae’n destun ymchwil i rywun bellach, ond cawn restr gan Len o’r holl deitlau, yngyd a sut maent yn amrywio o ran nifer y tudalennau a’u diwyg. Nid oedd yn syndod deall mai yn y Wynedd Gymraeg y mae’r nifer uchaf o bapurau.

Fel un fu ar y Pwyllgor Golygyddol ers blynyddoedd, roedd Len mewn lle da i edrych yn ol ar hanes Lleu a chawsom hanes ei sefydlu a chlywed sut y cododd y pris ers 1975. Anhygoel yw meddwl fod rhaid i’r aelodau cynnar nid yn unig gasglu’r newyddion, ond ei deipio, ei gysodi (efo siswrn a glud), ei anfon i’w argraffu, heb son am drefnu ei blygu a’i ddosbarthu wedyn!
Cyfaddefodd fod cyfrifiadur wedi hwyluso’r broses, ond wedi ei wneud yn waith mwy unigolyddol bellach. Roedd Len wedi bod yn pori drwy’r cofnodion hefyd, ac wedi canfod ambell gofnod go ddoniol. Difyr oedd clywed sut bu ymdrechion i godi arian i’r papur ar hyd y blynyddoedd, yn deithiau beics a chyhoeddi calendar.

Yr hyn y mae Len yn enwog amdano yw Croesair Lleu, a rhan olaf y ddarlith oedd straeon Len am ei hanes yn cynnal y croesair eiconig hwn, a’r teimladau cryfion y gall ennyn mewn ambell un! Ond rhaid manteisio ar y cyfle i ddiolch iddo am roi oriau o ddifyrwch inni ar hyd y blynyddoedd.

Os dymunwch gopi o’r ddarlith, mae ar werth yn Llyfrgell Penygroes am £4. Rhaid inni ymfalchio fod gennym bapur bro sydd wedi goroesi yn Nyffryn Nantlle ers 47 o flynyddoedd. Mae croeso o hyd i bobl gyfrannu at Lleu, naill ai o ran anfon straeon neu luniau, neu help o ran dosbarthu. Cysylltwch a Lleu ar papurbro.lleu@gmail.com