Dangosiad o ffilm Ysgol Rhosgad yn llwyddiant!

Dangoswyd y ffilm yn COP26 hefyd

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae disgyblion Ysgol Rhosgadfan wedi cynnal dangosiad cyhoeddus cyntaf o’u ffilm fer a ddangoswyd yn COP26 yn Glasgow.

 

Mae’r ffilm, Blot-deuwedd, yn rhoi gwedd newydd ar un o geinciau mwyaf adnabyddus y Mabinogi sy’n dilyn hanes Blodeuwedd, gwraig Lleu Llaw Gyffes a wnaed o flodau gan y consurwyr Math a Gwydion.

 

“Ôl ddinistriol dyn ar y byd”

 

Ond mae disgyblion Ysgol Rhosgadfan wedi gosod y stori yng nghyd-destun modern newid hinsawdd fel rhan o brosiect Ynys Blastig, cynllun creadigol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

 

Mae’r ‘blot’ yn ‘Blot-deuwedd’ yn cynrychioli ôl ddinistriol dyn ar y byd.

 

Yn ymddangos yn y ffilm fer mae’r prif gymeriad, Hana Hughes, ei chyd-ddisgyblion yn Ysgol Rhosgadfan, a’r actores adnabyddus Ceri Lloyd. Fe’i dangoswyd yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn 2021 gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac fe’i canmolwyd fel enghraifft o rôl diwylliant wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Mewn premier lleol o’r ffilm fer yn Galeri Caernarfon, trafododd y Brifathrawes Judith Ann Owen ei balchder o weld disgyblion Ysgol Rhosgadfan yn serennu ar sgrin fawr y ganolfan gelfyddydol.

 

Gwahoddwyd rhieni, gwleidyddion a swyddogion llywodraeth leol i’r dangosiad cyhoeddus ar 21 Ionawr, ac yn ogystal â gweld y ffilm, rhoddwyd hadau iddynt i’w plannu yn eu gerddi.

 

“Neges frawychus o berthnasol”

 

Mae Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn San Steffan wedi sôn am lwyddiant y disgyblion:

“Fel pob un o’r Mabinogi, mae gan Blodeuwedd neges frawychus o berthnasol i Gymru heddiw.

 

“Yn y chwedl mae neges oesol am effaith ddinistriol dynoliaeth, sy’n arbennig o berthnasol i oes yr argyfwng hinsawdd.

 

“Mae honno’n neges drymlwythog i’w chyfleu mewn ffilm fer, ond mae plant Ysgol Rhosgadfan wedi llwyddo i wneud hynny’n rhagorol.

 

“Wrth wylio’r ffilm fer, cefais fy atgoffa o bortread yr arlunydd adnabyddus Richard Wilson o’r Wyddfa o gyfeiriad Llyn Nantlle, sy’n cael ei arddagos yn Llundain.

 

“Mae’r portread hwnnw’n ein hatgoffa o le Cymru yn y byd. Efallai wir ein bod yn wlad fechan, ond mae gennym gyfrifoldeb pwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

 

“Fel y soniais wrth y disgyblion, ‘sbïwch allan i’r byd, ond dechreuwch wrth eich traed.’”

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli’r ardal yn y Senedd. Dywedodd:

 

“Es i i Rosgadfan i gwrdd â’r disgyblion cyn y Nadolig, ac roeddwn wrth fy modd yn cael gwahoddiad i’r premier yn Galeri Caernarfon.

 

“Ar fy ymweliad cefais anrhegion Nadolig a oedd yn ein hatgoffa o gyfrifoldeb yr unigolyn yng nghyd-destun yr argyfwng newid hinsawdd. Roedd 12 cracer Nadolig, yn cynrychioli 12 diwrnod y Nadolig, yn cynnwys cynghorion dydd i ddydd ar sut i leihau ein hôl troed carbon.

 

“Mae Arfon yn ardal sy’n berwi ag egni creadigol, celfyddydol. Mae rhoi’r cyfle i blant sianelu’r egni hwnnw, a’i gyfuno â materion fel newid hinsawdd yn hollbwysig.”