Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghaernarfon – Ambiwlans Awyr Cymru – 8/12

Cyfarfod Cyhoeddus yn erbyn cau safleoedd Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle a’r Trallwng

gan Llio Elenid
Image

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hanfodol ac amhrisiadwy i drigolion Gwynedd. Mae eu canolfannau sydd yn ein gwasanaethu ni ar hyn o bryd wedi eu lleoli yn Ninas Dinlle ac yn y Trallwng. Mae dyfodol y canolfannau hyn dan ymgynghoriad ac mae’r farn yn amlwg yn lleol ac yn gyhoeddus y gall symud y canolfannau hyn i arfordir gogledd ddwyrain Cymru (Rhuddlan yw’r lleoliad arfaethedig) fod yn negyddol iawn, hyd yn oed yn andwyol, i bobl Gwynedd – yn enwedig i’r rhai sy’n byw yn y llefydd mwyaf diarffordd.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn erbyn cau y safleoedd Ambiwlans Awyr Cymru hyn yng Nghaernarfon nos fory –

📅 Nos Iau, 8fed o Ragfyr

⏰ 7pm

📍 Gwesty Celtic Royal, Caernarfon

Yn siarad bydd Liz Saville Roberts (AS/MP), Hywel Williams (AS/MP), Mabon ap Gwynfor (AS/MS), a Rhun ap Iorwerth (AS/MS), ymhlith eraill.

Mae modd i chi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu hefyd yn fan hyn – Deiseb yn erbyn cau safle AAC Dinas Dinlle.