Codi pres ar gyfer prosiectau bwyd lleol

Mae cynllun ym Mhenygroes yn eu plith

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS yn cynrychioli ardal Arfon yn Senedd Cymru a San Steffan, a’r wythnos hon maent yn lansio eu hapêl Nadolig i godi arian ar gyfer 8 prosiect bwyd yn eu hetholaeth. Ymhlith y prosiectau hynny mae cynllun bwyd Yr Orsaf, Penygroes.

 

Mae’r apêl yn cael ei lansio yn wyneb argyfwng costau byw, ac mae disgwyl i’r sefyllfa economaidd arwain at ddefnydd cynyddol o fanciau bwyd a phrosiectau rhannu bwyd eraill. O’r herwydd, bydd arian a godir o Apêl Nadolig Plaid Cymru Arfon eleni yn cael ei roi i Fanc Bwyd Arfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd Yr Orsaf Penygroes, Porthi Dre, Caernarfon, Pantri Pesda, Bethesda, Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug a Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.

 

Mae Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, yn honni bod prosiectau bwyd o’r fath yn “fwy hanfodol nag erioed.”

 

“Mae bodolaeth y prosiectau hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa enbyd y cawn ein hunain ynddi.

 

“Maen nhw’n gynhaliaeth i bobl sy’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd, a’r gaeaf yma maen nhw’n fwy hanfodol nag erioed.

 

“Mae’r gair ‘digynsail’ wedi cael ei ddefnyddio hyd syrffed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond rydyn ni wir yn byw mewn cyfnod o galedi na welwyd ei debyg i deuluoedd ar draws Arfon a’r wlad i gyd.

 

“Rydym yn deall bod pryder gwirioneddol am y gaeaf sydd o’n blaenau, ac effeithiau’r argyfwng costau byw.

 

“Felly, eleni mae Plaid Cymru Arfon wedi penderfynu rhoi’r arian a godir gan ein hapêl ariannol i gynlluniau bwyd o fewn yr etholaeth.

 

“Y gaeaf hwn bydd y prosiectau hyn yn achubiaeth i lawer, ac mae angen ein cefnogaeth lawn arnynt.”

 

Mae Hywel Williams yn gwasanaethu’r un etholaeth yn San Steffan. Ychwanegodd:

 

“Mae ergyd yr argyfwng costau byw, sy’n cael ei achosi gan chwyddiant, cynnydd mewn cyfraddau llog a chynnydd mewn biliau ynni eisoes i’w deimlo ar draws cymunedau Arfon.

 

“Mae yna deuluoedd yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd, a busnesau yn wynebu chwalfa ariannol. Mae gaeaf llwm iawn o’n blaenau.

 

“Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar lywodraeth y DU i gymryd camau pendant i amddiffyn ein haelwydydd mwyaf bregus.

 

“Ond yn absenoldeb gweithredu go iawn gan y llywodraeth, rydym yn ffodus i gael pobol dosturiol o fewn ein cymunedau sy’n gweithio’n galed i amddiffyn y bobl sydd fwyaf bregus mewn cymdeithas.

 

“Dylai bodolaeth y mentrau bwyd hyn fod yn destun cywilydd i lywodraeth y DU.

 

“Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn hollbwysig, ac mae’n bleser eu cefnogi.”

 

Dylai’r sawl sy’n dymuno cyfrannu at yr apêl ddilyn y ddolen hon.