Clwb Celf

Wedi ail gychwyn!

angharad tomos
gan angharad tomos

Newyddion da i blant a rhieni yw fod y Clwb Celf wedi ail gychwyn. Bu’r sesiynau hyn a drefnwyd gan Dyffryn Nantlle 2020 yn hynod boblogaidd cyn Covid. Bore Sadwrn Tachwedd 12 daeth Gwenllian o’r Orsaf i ddangos i blant sut i greu cannwyll amryliw. Roedd plant o 2 oed i 12 oed yn cymryd rhan.

Cynhelir y Clwb Celf yn fisol yn awr yn Neuadd Goffa Penygroes rhwng 10.30 a 12.30, am ddim, ond mae croeso i chi roi cyfraniad. Bydd gweithgarwch gwahanol bob mis. Y drefn yw ein bod yn anfon taflenni i ysgolion y cylch, ond bydd y wybodaeth hefyd ar Facebook Yr Orsaf. Mawr yw’r edrych ymlaen at y sesiwn nesaf pan fyddwn yn cynnig tasg Nadoligaidd.