Canmlwyddiant Neuadd Bentref Y Groeslon

Oes gennych chi luniau ac atgofion?

gan Llio Elenid
70729623https://mapio.net/pic/p-70729623/
PHOTO-2022-07-19-21-28-49

Mae Neuadd Bentref y Groeslon yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni, ac mae trefniadau mewn lle ar gyfer y 4ydd o Dachwedd i ddathlu, gan gynnwys arddangosfa a chyngerdd gyda’r nos.

Ond cyn hynny da ni angen lluniau ac atgofion! Oes gennych chi unrhyw luniau neu hanesion yn ymwneud â Neuadd y Groeslon o gwbl? Lluniau o unrhyw achlysur neu glwb – cyngherddau, carnifal, cymdeithas ddrama neu ‘marfar côr, y clwb snwcer, yr Eisteddfod, y Sioe Arddio, Merched y Wawr? Hyd yn oed barti pen-blwydd? Neu lun o’r neuadd ei hun rywbryd yn ystod y ganrif ddiwethaf? Unrhyw luniau neu atgof da chi’n fodlon i ni eu cynnwys yn yr arddangosfa i ddangos hanes y neuadd dros y 100 mlynedd diwethaf.

Croeso i chi anfon neges/lluniau at DyffrynNantlle360, neu at arwelfa@btinternet.com neu llioelenid@outlook.com

Hefyd croeso i chi gysylltu ar 07887956253.

Diolch o galon o flaen llaw!