Cai!

cyfweliad gyda Osian Evans “Cai”

Yr Orsaf
gan Yr Orsaf

Pwy yw Cai?

Mae Cai yn artist lleol yn nyffryn Nantlle sydd wedi cael llawer o lwyddiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan gynnwys ennill y gystadleuaeth ail-gymysgu MaesB a chyrraedd ar restr fer brwydr y bandiau! Mae ganddo lawer o bethau mawr ar y gweill ar gyfer y flwyddyn, a dymunwn bob lwc iddo!

Cyfweliad gyda Cai,

“Hello! Fi di Cai! Dwi o Penygroes Dyffryn Nantlle a dwi’n creu music! Dwi’n artist annibynnol yn creu bob dim o fy medroom! Dwi’n greu cerddoriaeth su gael i disgrifio fel ‘Bedroom pop’. Es i dechra creu cerddoriaeth wrth chwarae y bas i fand ag yna es i mlaen i astudio music tech yn Coleg Menai Bangor. Yn fan hyn es i rili ffeindio fy cariad tuag at cerddoriaeth munud wedyn odd bywyd fi gyd am cerddoriaeth!
Ers y dechra yna dwi di dechra prosiect cerddoriaeth fy hyn or ewn “Cai”. Mae’r blwyddyn dwytha wedi bod yn insane gyda profiadau mae cerddoriaeth wedi rhoid i fi. Es i dechra y blwyddyn off gyda siawns i mynd ar BBC Radio Cymru i siarad gyda Huw Stephens am fy cerddoriaeth. Mae di bod yn crazy experiences. Misoedd wedyn gyda 4 rhyddhad swyddogol ar fy melt es i cyrraedd y rhest fer yn Brwydr Y Bandiau 2021 ag yna ennill cystadleuaeth ail-gymysgu gyntaf gan Maes B ag Eistedffod.
Mae genna i ganeuon wrthi gal i gorffan fyny ar y funud. I obeithio rhyddhau nhw yn fuan! Dwi gobeithio fedra i gigio mwy blwyddyn yma mwy na dim byd! Caru gigio!”

 

Spotify – https://open.spotify.com/artist/5qf3m…

Instagram – https://www.instagram.com/cai.music/?…

Facebook – https://www.facebook.com/Cai-10327598…