Beics trydan

I’w llogi o’r Orsaf

angharad tomos
gan angharad tomos
5EA08B14-9FCC-4C56-A737

Roedd Tachwedd 14 yn ddiwrnod mawr yn Yr Orsaf pan lansiwyd cynllun llogi beics trydan. Bellach, mae cyfle i unrhyw un logi beic a theithio i lle y mynn. Mae’n ffordd wych o gadw’n heini heb fynd i’r gost enfawr o brynu beic.

O ddydd Llun i ddydd Gwener (rhwng 9.30 a 16.30), bydd modd llogi’r beiciau am £12 y tro. Pris i bobl leol yw hwn, a bydd angen blaendal. Mae hyn yn cynnwys helmed a chlo. Dylech fod dros 14 oed, ac os ydych yn 18 neu’n iau, byddwch angen oedolyn efo chi.

Pam mai KC16 yw enw’r cwt beics yn Yr Orsaf? Wel, ganrif yn ol, sgwennodd TH Parry Williams ysgrif enwog am ei feic – KC16. Beic modur oedd hwnnw, ac meddai’r bardd, “Yn ei gwmni ef y profais…y teimladau mwyaf llednais, y cefais y meddyliau mwyaf aruchel, y breuddwydiais freuddwydion yn effro, ac yr ehedodd fy ffansi i’r broydd tecaf.”

Os dymunwch brofi hyn, cysylltwch ag Elenid 07596 325496 neu e-bostio trafnidiaeth@yrorsaf.cymru.

Rydym yn ffodus iawn i gael Lon Eifion reit ar garreg y drws. Hwyl ar y beicio!