Atgofion Penbonc Y Groeslon

Agofion o’r 30au a 40au

Ceridwen
gan Ceridwen

Yn dilyn  y diwrnod gwych a gawsom yn ddathlu Neuadd Y Groeslon yn gant oed,  dyma agofion un o drigolion Topia Groeslon, a ddarllenwyd yn y Cyngerdd nos, am ei hamser yn Penbonc yn y 1930au a 40au:

“Oddani yn y Topia cw efo criw ein hunain I chwara, ni y genod, Esyllt, Laura a finna, hogia Bryn Gwenallt ac amryw un arall, a Penbonc oedd y lle oedd yn tynnu pawb. Oedd na goelcerth mawr adeg Gai Ffowcs ac yn yr Haf oddanin cael picnic, diod o ddwr a bechdan. Pan oedd y tywydd yn boeth mi fydda criw yn cerdded I fyny I Fuches las at yr afon ac yn fano  smalio bod nin nofio yn y mor mawr, hwyl da oedd hynny.

Yn y Gaeaf roedd na lyffantod yn ofnadwy  yn y fawnog, a fyddwn i ofn nhw braidd. Fyddanhw yn croesi lon weithia a hitha  wedi twllu, fyddwni ofn eu sathru nhw. A pan roeddwn yn dod or Ysgol , weithia roedd na wyddau  yn Cefnen ac mi fydda rheini  yn pori ar ochr y lon ac yn chwythu dwad ar fy ol i, a dychryn fi yn ofnadwy. Yn y gaeaf yn y 30au mi fyddair Fawnog yn rhewi yn gorn, nes fysa yn ddigon  hawdd fynd i sglefro ar ei hyd. Fydda pawb yn dod fyny o pentra I gael hwyl, a rywyn yn rhoi cyfnas wen drostynt, a  gweiddi fatha ysbryd  I ddychryn ni.

Yn wyth oed cael mynd I Ysgol Penfforddelen a dod i nabod  plant Carmel a Fron, a dod yn ffrindiau efo nhw.   Yn yr Haf byddair hogia yn hwyr yn dod nol amser cinio, wedi bod yn Nant yr Hafod yn trio pysgota, nes oedd eu breichiau I gyd  yn wlyb domen  wedi bod yn trio cosi bol y pysgod.

Byddai Efan Becar o Rostryfan yn dod heibio efoi fan fara, ar hogia, fel arfer Donald, yn prynnu torth dan badell, ei rhannu i bawb, yn lle  mynd a hi adef! Un da oedd Donald am helpu adeg hel gwair, un or rhai hynaf yn y giang .

Toedd gennym ddim oriawr na chloc, ond roedd un or genethod, Linda, wedi cael ei siarsio I ddod adref o Penbonc pan oedd dwy dren yn pasio eu gilydd  yn steshion  Groeslon. Un tren o Bwllheli ac un o Gaernarfon. Roedd mwg y ddwy iw weld yn glir gan nad  oedd coed uchel yno adeg hynny.  Roedd yn lle clir, braf, efo digon o le i gael gem o griced, a merlod  yn dod lawr or mynydd  y gael tamed blasus. ”

Mae pobl dal yn dod fyny or pentra i Penbonc am dro, i weld y golygfeydd gwych I bob cyfeiriad . Ac mi roedd giang arall o ffrindiau yma yn y 1970au yn cael hwyl hefyd, ond stori arall yw honno!