Yn dilyn y diwrnod gwych a gawsom yn ddathlu Neuadd Y Groeslon yn gant oed, dyma agofion un o drigolion Topia Groeslon, a ddarllenwyd yn y Cyngerdd nos, am ei hamser yn Penbonc yn y 1930au a 40au:
“Oddani yn y Topia cw efo criw ein hunain I chwara, ni y genod, Esyllt, Laura a finna, hogia Bryn Gwenallt ac amryw un arall, a Penbonc oedd y lle oedd yn tynnu pawb. Oedd na goelcerth mawr adeg Gai Ffowcs ac yn yr Haf oddanin cael picnic, diod o ddwr a bechdan. Pan oedd y tywydd yn boeth mi fydda criw yn cerdded I fyny I Fuches las at yr afon ac yn fano smalio bod nin nofio yn y mor mawr, hwyl da oedd hynny.
Yn y Gaeaf roedd na lyffantod yn ofnadwy yn y fawnog, a fyddwn i ofn nhw braidd. Fyddanhw yn croesi lon weithia a hitha wedi twllu, fyddwni ofn eu sathru nhw. A pan roeddwn yn dod or Ysgol , weithia roedd na wyddau yn Cefnen ac mi fydda rheini yn pori ar ochr y lon ac yn chwythu dwad ar fy ol i, a dychryn fi yn ofnadwy. Yn y gaeaf yn y 30au mi fyddair Fawnog yn rhewi yn gorn, nes fysa yn ddigon hawdd fynd i sglefro ar ei hyd. Fydda pawb yn dod fyny o pentra I gael hwyl, a rywyn yn rhoi cyfnas wen drostynt, a gweiddi fatha ysbryd I ddychryn ni.
Yn wyth oed cael mynd I Ysgol Penfforddelen a dod i nabod plant Carmel a Fron, a dod yn ffrindiau efo nhw. Yn yr Haf byddair hogia yn hwyr yn dod nol amser cinio, wedi bod yn Nant yr Hafod yn trio pysgota, nes oedd eu breichiau I gyd yn wlyb domen wedi bod yn trio cosi bol y pysgod.
Byddai Efan Becar o Rostryfan yn dod heibio efoi fan fara, ar hogia, fel arfer Donald, yn prynnu torth dan badell, ei rhannu i bawb, yn lle mynd a hi adef! Un da oedd Donald am helpu adeg hel gwair, un or rhai hynaf yn y giang .
Toedd gennym ddim oriawr na chloc, ond roedd un or genethod, Linda, wedi cael ei siarsio I ddod adref o Penbonc pan oedd dwy dren yn pasio eu gilydd yn steshion Groeslon. Un tren o Bwllheli ac un o Gaernarfon. Roedd mwg y ddwy iw weld yn glir gan nad oedd coed uchel yno adeg hynny. Roedd yn lle clir, braf, efo digon o le i gael gem o griced, a merlod yn dod lawr or mynydd y gael tamed blasus. ”
Mae pobl dal yn dod fyny or pentra i Penbonc am dro, i weld y golygfeydd gwych I bob cyfeiriad . Ac mi roedd giang arall o ffrindiau yma yn y 1970au yn cael hwyl hefyd, ond stori arall yw honno!