Ail-adfer bro

3 phrosiect sy’n rhoi bywyd newydd i’r Dyffryn

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Wrth glywed a darllen am yr hyn sy’n digwydd yn Nyffryn Nantlle ar hyn o bryd, mae rhywun yn ei chael hi’n anodd peidio â theimlo’n bositif iawn ynghylch yr holl beth.

 

Yn ddiweddar bu’r Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllian, draw yn y Dyffryn i glywed mwy am y prosiectau hyn. Mae gan Siân gysylltiadau teuluol cryf efo’r Dyffryn, felly roedd gweld drosti ei hun y gwaith sydd yn digwydd yng nghalon yr ardal yn brofiad arbennig.

 

Mae Grŵp Cynefin wrthi’n adeiladu 24 o dai cymdeithasol carbon isel ym Mhenygroes, datblygiad y mae ‘angen dirfawr’ amdano fo, yn ôl Siân.

 

Ond ymhellach na hynny, mae Grŵp Cynefin newydd gyhoeddi cynllun gwerth £38m ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd ym Mhenygroes. Mae’r cynlluniau yn ffrwyth cydweithio rhwng y grŵp tai a phartneriaid yng Nghyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Theatr Bara Caws.

 

“Cynaliadwy”

 

Yn ôl yr Aelod lleol o’r Senedd mae’r 24 tŷ cymdeithasol carbon isel yn gynaliadwy am sawl rheswm.

 

“Ddim jest yn y cyd-destun amgylcheddol mae’r tai hyn yn gynaliadwy. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod cael tai fforddiadwy o fewn gafael pobol leol yn gwbl hanfodol i sicrhau hyfywedd ein cymunedau.

“Ond yn ogystal ag adeiladu’r tai, mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi eu gweledigaeth ar gyfer cynllun iechyd a lles gwerth £38 miliwn, cam trawsnewidiol ar gyfer seilwaith iechyd ar hyd a lled y Dyffryn.”

 

Mae’r prosiect pellgyrhaeddol, a elwir ar hyn o bryd yn Ganolfan Lleu, yn cynnwys cartref preswyl, fflatiau byw’n annibynnol, gwasanaethau iechyd, fferyllfa gymunedol, gwasanaeth deintyddol, gofodau amlbwrpas, swyddfeydd Grŵp Cynefin, cartref newydd i Theatr Bara Caws, a llawer, llawer mwy.

 

Cadarnhaol a chalonogol”

 

“Fel ardaloedd eraill ar draws Arfon, mae Dyffryn Nantlle wedi wynebu heriau economaidd penodol iawn, ond ar fy ymweliad diweddar mae’n amhosib anwybyddu’r arwyddion cadarnhaol a chalonogol. Es i draw hefyd i’r Orsaf, hwb cymunedol a chaffi ym Mhenygroes sy’n derbyn cefnogaeth gan Grŵp Cynefin.

 

“Mae mentrau cymunedol ar draws Arfon yn gwthio newid cymdeithasol, a dyma’r union fath o agwedd uchelgeisiol sydd ei angen yn llefydd fel Penygroes.”

 

Yn 2010 caeodd Siop Griffiths, un o adeiladau hynaf Penygroes ei drysau, ond yn 2016 prynwyd Siop Griffiths gan y gymuned. Sefydlwyd Cymdeithas Budd Cymunedol i sicrhau bod yr adeilad yn aros yn nwylo’r gymuned.

 

Yn ôl Siân, mae angen “meddwl yn greadigol.”

 

“Mae datblygiadau fel yr un hwn hefyd yn ein hatgoffa fod angen inni feddwl yn greadigol wrth fynd i’r afael â heriau’r dyfodol. Mae gofyn cael amrywiaeth o bartneriaid, ac i gydnabod y berthynas rhwng y celfyddydau, iechyd, yr economi, yr amgylchedd a chymunedau cynaliadwy.”