Ymweld â thafarn gymunedol Llandwrog

Mae cynlluniau’r fenter yn uchelgeisiol

Ar Goedd
gan Ar Goedd
241485769_1490645347960640

Caryl Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Menter Ty’n Llan, Siân Gwenllian AS, Hywel Williams AS, ac Angharad Gwyn, aelod o Bwyllgor y Fenter.

Mae Menter Ty’n Llan yn fenter gymunedol yn Llandwrog a sefydlwyd ym mis Chwefror eleni i brynu tafarn y pentref, sydd wedi bod ar gau ers 2017.

 

Llwyddodd y fenter i gyrraedd eu targed o £400,000 ym mis Mehefin, ac fe gefnogwyd yr ymdrech i werthu cyfranddaliadau gan yr actor Twin Town, Rhys Ifans.

 

Mae cynlluniau’r fenter wedi cael eu disgrifio fel rhai “uchelgeisiol”, ac mae’n cynnwys adfer yr adeilad fel tafarn, yn ogystal â bwyty a chanolfan gymunedol.

  

Yn ddiweddar aeth yr Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllian, a’i chydweithiwr yn San Steffan Hywel Williams AS, draw i ymewld a’r Fenter.

 

Ymatebodd Siân Gwenllian;

 

“Roeddwn i wrth fy modd pan lwyddodd y fenter i gyrraedd eu targed ariannol. Fel ddywedais i bryd hynny, mae mentrau fel yr un hon yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ein pentrefi bychain, yn ogystal â’r iaith Gymraeg.

 

“Roedd yn hyfryd ymweld â’r dafarn, a chael taith gan ddau aelod o’r gweithgor.

 

“Mae’n amlwg bod y rhai sydd ynghlwm â’r fenter yn llawn brwdfrydedd a syniadau uchelgeisiol, ac mae’n wych gweld trigolion lleol yn cymryd cyfrifoldeb a perchnogaeth dros eu cymunedau.

 

“Mae ’na ysbryd cymunedol cryf yn yr ardal hon, rydan ni wedi arfer gwneud pethau dros ein hunain, ac mae criw’r Fenter yn esiampl inni.”

 

Dywedodd Hywel Williams AS;

 

“Mae Ty’n Llan yn dafarn o bwys hanesyddol a diwylliannol enfawr, ac mae’n codi calon gweld pobol leol yn gweithio mor galed i’w throi’n adnodd cymunedol gwerthfawr.

 

“Roedd yn amlwg o wrando ar aelodau’r gweithgor bod y dafarn yn golygu llawer i’r gymuned, a bod atgofion oes ynghlwm â’r lle.

 

“Diolch iddynt am gael dod draw, a tystio i’w brwdfrydedd.”