Slot 15:00 – cyfle i glywed gan leisiau o’r Dyffryn

Cyfres o ddigwyddiadau ydi Slot 15:00, sy’n gyfle i glywed gan rai o leisiau Dyffryn Nantlle

Ar Goedd
gan Ar Goedd
SLOT-15_00-copy

Mae’r cyfres o ddigwyddiadau yn cynnwys straeon, darlleniadau, a fideos gan bobol Dyffryn Nantlle.

Bydd y slots gwahanol yn mynd yn fyw am 15:00 o’r gloch ar brynhawniau Mercher, yn dechrau o wythnos nesa ymlaen.

Ymhlith rhai a fydd yn ymddangos bydd Angharad Tomos a Cefin Roberts.

Gallwch ddilyn y digwyddiad drwy glicio’r ddolen hon.