Prosiect newydd Llwyddo’n Lleol!

Gweithio fel Swyddogion Marchnata am 10 wythnos gyda busnesau lleol

Mali Llyfni
gan Mali Llyfni
10 o'r Swyddogion Marchnata Llwyddo'n Lleol, (Llun gan Llwyddo'n Lleol).

Am y 10 wythnos nesaf, rydw i a naw o bobl ifanc Gwynedd a Môn wedi cael ein dewis i fod yn rhan o brosiect newydd a chyffroes iawn gan Llwyddo’n Lleol, Menter Môn. Prosiect sydd yn cynnig hyfforddiant mewn maes Marchnata a’r cyfle i gyd-weithio a busnesau lleol ein hardal.

Mae pob un ohonom yn cyd-weithio a busnesau gwahanol, ac mi fyddaf yn cyd-weithio gyda Chwmni cyfreithiwr newydd, Lloyd Evans & Hughes, sydd wedi sefydlu uwch ben y Llyfrgell ym Mhenygroes, a Chwmni Datblygu, Darparu a Dysgu Gweithgareddau Awyr Agored, Ar y Trywydd, sydd wedi bod yn cyd-weithio dipyn gyda’r Orsaf yn ddiweddar. Mae cwmnïau eraill ar draws Gwynedd a Môn yn rhan o’r prosiect hefyd.

Yn ogystal, mi fyddai, a’r criw yn derbyn hyfforddiant wythnosol gan Beth Woodhouse, sydd yn rhedeg Cwmni Marchnata newydd o’r enw ‘Marketshed’. Wedi 10 mlynedd o brofiad mewn datblygu brand a marchnata, cychwynodd Beth ei busnes ei hun nol ym mis Mehefin 2020, ac wedi bod yn brysur iawn ers hynny.

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddechrau ar fy rol fel Swyddog Marchnata wythnos yma, ac i gyd-weithio gyda busnesau lleol yr ardal a Beth, gan obeithio datblygu sgiliau marchnata, a dysgu mwy am y maes. Hoffwn ddiolch hefyd i Llwyddo’n Lleol am y cyfle unigryw yma.