Prosiect Iechyd a Lles Dyffryn Nantlle

Cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil

Gwenlli Thomas
gan Gwenlli Thomas
Poster-Cymraeg-DN-2

Dw i’n fyfyrwaig gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor ac yn cynnal ymchwil ar y cyd efo Grŵp Cynefin. Dw i’n chwilio am bobl dros 18 o Ddyffryn Nantlle i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws a fydd yn trafod pa fath o wasanaethau lles a fyddech chi eisiau mewn Hwb Iechyd a Lles newydd yn Nyffryn Nantlle? Mae Grŵp Cynefin eisiau gwybod a fyddech chi eisiau i wasanaethau lles fod ar gael drwy wasanaeth presgripsiwn cymdeithasol?

Os ydych chi’n dymuno cymryd rhan, mi fyddai’n grêt petaech chi’n fodlon darparu eich manylion drwy ddilyn y linc yma cyn y 5ed o Chwefror os gwelwch yn dda:

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=VUxHxiOpKk2b1OzjcUjbsiRL4J41_dJFnZ5NthBf-idUMThTNFQ5VlFEWUlDOVpGVjMwR1RJRE9XQi4u

(Am fanylion ychwanegol i’r poster uchod am beth yw gwasanaeth presgripsiwn cymdeithasol a beth fyddai cymryd rhan yn yr ymchwil yn ei olygu, dilynwch y linc yma:  https://bangoroffice365-my.sharepoint.com/:w:/g/personal/sou9b8_bangor_ac_uk/EQaX94Z6-PpBlQvHprS04HgB7Yg2noB8x1xyukbJ0NeCPA?e=XOmvas )

Bydd sampl mor gynrychioliadol â phosib o bawb yn Nyffryn Nantlle yn cael ei ddewis ar hap o blith pawb a fydd wedi darparu eu manylion.  

Cysylltwch gyda fi, Gwenlli, os hoffech fwy o wybodaeth drwy e-bostio sou9b8@bangor.ac.uk.