Pobi yn agor ei ddrysau yn yr hen fanc.

Wedi 8 mis prysur o redeg busnes Pobi o’i chegin gartref, mae Sophie Owen o Dalysarn wedi cymryd cam cyffrous i adleoli i’r hen fanc ar Heol y Dŵr, Penygroes.  

Sioned Young
gan Sioned Young
Pobi

Sophie a’i chwaer Ceri

Siop Pobi
Siop Pobi
Siop Pobi
Siop Pobi

Ar nos Wener 04.06.21 fe agorwyd Pobi ei ddrysau’n swyddogol, ac mae Sophie Owen o Dalysarn, sy’n rhedeg y busnes gyda help ei chwaer Ceri, yn edrych ymlaen at weld beth a ddaw o’r fenter newydd.

“Cychwynnais i bobi pethau adref at Galan Gaeaf llynedd, cyn mynd ati i greu cacennau Pen-blwydd – ac mae popeth wedi tyfu’n sydyn o hynny,” meddai Sophie. “Pan welais i’r cyfle i redeg lle fy hun yma yn y banc, mi wnes i feddwl pam ddim mynd amdani!”

Sam Tan, Jaci Soch a Wil Cwac Cwac

Yn ogystal a bod ar agor fel deli a chaffi yn ystod y dydd yn gwerthu cennau a bwyd ffres, mae Pobi hefyd ar agor gyda’r nos i weini pitsas cartref a chwrw lleol.

Mae’r pistas yn serennu enwau unigryw a’n cynnwys Carys Ofalus (Margherita), Jaci Soch (Pulled Pork, Ci Poeth a Saws BBQ) a Smot (Pepperoni) ymysg enwau hwyliog eraill.

Dywedai Sophie bod yr ysbrydoliaeth am yr enwau wedi dod drwy sgwrs a’i chwaer, Ceri, mewn siwrne car.

“Oedda’ ni eisiau cael enwau unigryw i’r pitsas, a oedd y ddwy ohonom yn hoffi’r syniad o roi enwau Cymraeg. Jaci Soch ddoth yn gyntaf, ac wedyn o hynny fe aethom ati i enwi’r pitsas ar ôl cymeriadau oeddem wedi tyfu i fyny gydag a fyddai’n gyfarwydd i bobl yr ardal,” meddai Sophie.

Rhywbeth i bawb

Yn unigryw iawn, mae’r busnes hefyd yn cynnig danteithion i gŵn o dan yr enw ‘Pobi Jô, wedi’i ysbrydoli o enw ci Sophie, Bobi Jô.

“Dwi’n cofio chwilio am gacen i’r ci o’r blaen, ond yr unig le oedd yn gwneud rhai yng Nghymru oedd rhywle yn Abertawe,” meddai Sophie, “oni felly’n gweld hi’n gyfle perffaith i gynnig rhywbeth yma yn y Gogledd ac sy’n cwbl unigryw i Pobi.”

Mae’r danteithion i gŵn yn cynnwys Pupcakes, Bisgedi a Chacennau Pen-blwydd i gŵn, gyda Puppaccino’s a ‘Hot doglates’ ar y gweill yn fuan hefyd.

Cefnogi busnesau lleol

Hefyd yn rhan o’r busnes mae adran siop – gyda silffoedd o gynnyrch gan sawl busnes bach annibynnol. Yn eu plith mae Printiau Celyn, Dillad y Dyffryn, Dillad Nant a Seren Mefus – sydd i gyd yn fusnesau o’r Dyffryn.

“Fel busnes bach fy hun, oeddwn i’n teimlo fod hi’n bwysig i mi gefnogi busnesau bach eraill yr ardal,” meddai Sophie.

Mae Pobi hefyd yn cefnogi busnesau lleol drwy weini coffi Poblado, gwrw Pant Du a Bragdy Lleu, a bara o’r becws lleol yn eu rôls ffres.

Edrych i’r dyfodol

Ar hyn o bryd, yn o gystal â rhedeg y busnes mae Sophie hefyd yn gweithio i Adra – gyda Pobi ar agor 6-10pm ar Ddydd Iau a Gwener, a 10am – 10pm ar benwythnosau. Ei gobaith i’r dyfodol yw ehangu ar oriau agor Pobi er mwyn gallu gwasanaethu hyd yn oed fwy o gwsmeriaid.

Mae hi hefyd yn edrych ymlaen at fanteisio ar adnodd chwarae plant y safle, gan gynnig gwasanaeth pecyn partïon i blant o fewn y dyfodol agos.

Pob hwyl i Sophie yn ei menter newydd, a byddwch yn siŵr o fynd draw i gefnogi’r busnes newydd lleol.