Noson o gerddi a hanes Lle-Chi Dyffryn Nantlle ac Oedfa Chwarel

Ymunwch ag Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, y bardd Karen Owen a’r hanesydd Dr Dafydd Gwyn mewn noson ddigidol o farddoniaeth, cân a hanes lleol.

gan Miriam Williams

Bydd y sesiwn rhithiol yn cael ei ffrydio am 7.00 pm nos Lun nesa, 24 Mai ar gyfrif YouTube Llenyddiaeth Cymru, ac ar gyfrifon Facebook Llechi Cymru, Llenyddiaeth Cymru a’r Amgueddfa Lechi. Does dim rhaid bod â chyfrif Facebook i ymuno, dyma ddolen: https://www.facebook.com/events/318579092985928

Hefyd ar fore Sul 23 Mai, bydd oedfa yn cael ei chynnal yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes dan ofal y bardd, Karen Owen. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ffrydio gan y capel ar Facebook Live a’i rannu ar y cyfrifon uchod.

Mae’r digwyddiadau yn rhan o daith Ifor ap Glyn o gwmpas ardaloedd y llechi er mwyn ddysgu mwy am yr hanes ac i glywed sut mae’r ardal wedi ysbrydoli gwaith newydd gan feirdd a cherddorion lleol mewn sgyrsiau gyda’r artistiaid. Bydd cyfle hefyd i weld y perfformiadau cyntaf o’r gwaith newydd yn ystod pob digwyddad. Ymysg y beirdd a’r cerddorion sy’n rhan o’r prosiect mae Lisa Jên, Manon Steffan Ros, Gai Toms, Llio Maddocks, Dyl Mei, Karen Owen ac Edwin Humphreys.

Yn ystod haf 2021 bydd UNESCO yn penderfynu os yw Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd. Byddai derbyn y statws yn dynodi’r ardal fel Tirwedd Diwylliannol o bwys rhyngwladol, gan ymuno â safleoedd Treftadaeth Byd Blaenafon a Dyfrbont Pontcysyllte wrth gydnabod cyfraniad Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol. Mae taith Ifor ap Glyn yn rhan o’r ymdrech i dynnu sylw at werth y cais.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/lle-chi/