Tîm dan 6 CPD Nantlle Vale

Newyddion pwysig am tîm dan 6 y clwb.

Begw Elain
gan Begw Elain

Tîm dan 6 (blwyddyn 1)

Ymarfer 6-7 nos Iau ym Mhlas Silyn.

Gyda hyfforddwr y tîm cyntaf a tîm dan 7 y clwb Daniel Bell.

Croeso i bawb o flwyddyn 1 yr ardal.

Cost y sesiwn fydd £2

‼️‼️‼️‼️‼️‼️‼️‼️

Bydd angen dau hyfforddwr/hyfforddwraig i redeg y tîm. Yn anffodus mae’n rhaid i’r clwb cael rhain yn ei lle cyn Medi 30ain. Os ddim, ni fydd yn bosib cael tim dan 6.

Bydd pob hyfforddwr yn cael cynnig dilyn y cyrsiau priodol er mwyn rhedeg tîm ieuenctid. Yr offer angenrheidiol yn cael ei archebu i’r tîm. Bydd y clwb yn gefn i’r hyfforddwyr ac yno am unrhyw beth y maen’t ei angen, er mwyn sicrhau llwyddiant gyda’r tîm.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r clwb.

Diolch ?