CPD Nantlle Vale wedi cael eu dewis fel achos lleol ar gyfer aelodau CO-OP eto! 

Beth am gyfrannu 2c o’ch gwariant i’r Fêl? 

Begw Elain
gan Begw Elain

Mae CPD Nantlle Vale yn ffodus iawn wedi cael ein dewis fel achos lleol ar gyfer aelodau CO-OP i gyfranu canran o’u gwariant yno iddo, hynny yw byddwn yn derbyn grant gan Co-op gyda’r swm o grant yn hollol ddibynnol ar bwy sy’n cyfrannu at ein hachos.

Pan yde chi yn rhan o gynllun aelodaeth CO-OP mae 2c o’ch gwariant yn cael ei gyfrannu at achos lleol, ac mae’r dewis gennych chi i bwy yde chi’n ei roi, byddwn yn ddiolchgar dros ben pe bydde chi’n dewis CLWB PEL DROED NANTLLE Vale fel eich achos am y flwyddyn nesaf, gweler yn y fideo sut i wneud ??

Rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth  barhaus⭐️⚽️