Murlun Yr Orsaf

Delwedd arall drawiadol ym Mhenygroes

angharad tomos
gan angharad tomos

Y murlun diweddaraf i ychwanegu lliw i bentref Penygroes yw gwaith Justin Davies ar wal Yr Orsaf. Ddechrau Medi, wrth i Justin beintio’r ddelwedd, cafodd sgyrsiau difyr efo pobl oedd yn cerdded heibio. Mae wedi gwneud i bobl feddwl, ac mae’r ymateb wedi bod yn ffafriol, ymysg pobl o bob oed.

Mae’r murlun yn cyfeirio at hanes yr adeilad, un o’r rhai cynharaf ym Mhenygroes. Yn 1828, tafarn a lle i aros oedd yma o’r enw ‘The Stag’s Head’, ond ganrif yn ddiweddarach, ym 1925 agorwyd Siop Griffiths, siop ironmongers chwedlonol y pentref.

Gwisg ironmonger sydd am y carw, a dyna yw’r sgriws o’i amgylch. Perchennog dwytha y siop oedd T.Elwyn Griffiths, neu Llenyn, a aeth yn ddarlithydd ar longau P&O i bob cwr o’r byd. Cynrychioli y diddordeb hwn mewn teithio mae’r 3 ces dillad, a gellir gweld y gwreiddiol yn ffenest y caffi. Mae’r cylchoedd yn y cefndir yn cynrychioli’r haul a threigl amser. Gan fod llety yn Yr Orsaf bellach,  mae’r adeilad wedi mynd yn ol i’w ddiben gwreiddiol.

Mae’r gwaith celf wedi ei gyflwyno i O.P.Huws, Nebo.