Mae Padlfyrddio yn weithgaredd sydd wedi tyfu’n sylweddol mewn poblogrwydd yn ystod y cyfnodau clo ac un sydd yn angerddol iawn am Badlfyrddio ac am sicrhau diogelwch wrth Badlfyrddio ydi Carwyn Humphreys.
Yn wreiddiol o Benygroes, mae Carwyn bellach wedi ymgartrefu yn Y Groeslon ac yn gweithio fel Cydlynydd Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd gyda Mantell Gwynedd.
Carwyn a Phadlfyrddio
Mentrodd Carwyn ar badlfwrdd am y tro cyntaf ryw chwe mlynedd yn nôl tra ar wyliau yng Ngroeg ac fe wnaeth gasáu’r wers gyntaf gan dreulio rhan fwyaf o’i amser yn y dŵr (ac nid ar y bwrdd!) Er na wnaeth fwynhau’r profiad yng Ngroeg, mi fentrodd Carwyn ar badlfwrdd am yr ail dro yn Llyn Llanberis gyda’i ffrind a do, fe wnaeth fwynhau’r profiad gan fynd ati i brynu ei fwrdd ei hun ac yn ei eiriau o “the rest is history”.
Dywed Carwyn bod Padlfyrddio a bod allan yn yr awyr agored wedi ei helpu gyda’i iechyd meddwl. Mae Padlfyrddio yn ei alluogi i ymlacio ac i reoli ei or bryder.
Teithiau ar Badlfwrdd
I mi, mae meddwl am drio sefyll ar Badlfwrdd yn dipyn o her felly dychmygwch y sioc ges i pan soniodd Carwyn am y teithiau y mae wedi ei wneud ar y Padlfwrdd! Dros gyfnod o wythnos, fe deithio Carwyn ar ei Badlfwrdd ar hyd y Caladonian Canal – taith sydd yn 60 milltir ac yn mynd drwy sawl Loch gan gynnwys Loch Ness gan gario ei eiddo gydag o (ar y bwrdd!) a champio gyda’r nos.
Mae Carwyn hefyd wedi cwblhau Her y 3 Llyn. Her sydd yn golygu Padlfyrddio llynnoedd mwyaf Cymru, Lloegr a’r Alban sef Llyn Tegid, Llyn Windmere a Loch Awe.
Dyfodiad Padlo
Yn ystod y cyfnod clo, manteisiodd Carwyn ar y cyfle i sefyll arholiad er mwyn cymhwyso fel hyfforddwr padlfyrddio ac ym mis Ebrill eleni, lansiodd y cwmni ‘Padlo Stand up Paddleboarding’.
Penderfynodd Carwyn gychwyn y busnes oherwydd y cynnydd sydd mewn poblogrwydd chwaraeon awyr agored yn dilyn y pandemig ac oherwydd ei fod yn angerddol am Badlfyrddio ac am ddysgu. Prif amcan Carwyn ydi dysgu pobl i fwynhau Padlfyrddio ac i wneud hynny yn gywir ac yn ddiogel gan bwysleisio ar bwysigrwydd cael y dillad cywir, edrych ar y tywydd a deall peryglon llanw a thrai.
Be mae Padlo yn ei gynnig?
Mae Padlo yn cynnig sesiynau cychwynnol 2 awr o hyd sydd yn cynnwys gweithgareddau ar y tir ac yn y dŵr yn ogystal â sesiynau dilyniant, sesiynau 1:1, sesiynau adeiladu tîm i staff a sesiynau i grwpiau o hyd at 6 o bobl. Mae Padlo hefyd wedi cynnal ei Barti Pen-blwydd cyntaf. Mae talebau anrheg hefyd ar gael trwy’r wefan.
Cynhelir y sesiynau yn lleol mewn lleoliadau cysgodol gyda chyfleusterau i newid. Yn rhan o bris y sesiwn, mae Padlo yn darparu bwrdd padlo a chit diogelwch ond, bydd angen i chi hurio eich wet suit eich hun.
Gobaith Carwyn ydi y bydd Padlo yn cynnig teithiau tywys ar Badlfyrddio ar hyd Arfordir Cymru yn ogystal â led led y Deyrnas Unedig.
Sut i drefnu sesiwn?
Gallwch gysylltu â Padlo ar,
??Facebook @Padlosup
??Instagram @Padlosup
??Gwefan https://padlosup.co.uk
??Ffôn 07450 573 245
??padlosup@gmail.com