Menter gerddorol newydd i ddau fachgen o’r Dyffryn

Hedydd Ioan ac Osian Cai o Benygroes yn mynd a cherddoriaeth i donfedd arall gyda’u busnes newydd.

Sioned Young
gan Sioned Young

Mae dau fachgen o Benygroes, Hedydd Ioan, 18 ac Osian Cai, 18 wedi mentro i sefydlu busnes newydd, Tonfedd Arall, a fydd yn cynnig modd cwbl newydd o ddysgu gwersi cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwriad Tonfedd Arall bydd cynnig gwersi cerddoriaeth mewn ffordd wreiddiol, ymarferol a fforddiadwy. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy ddatblygu gwasanaeth tanysgrifio ar lein. Fel rhan o’r gwasanaeth bydd posib gwylio dosbarthiadau cerddoriaeth a fydd yn amrywio o sut i chwarae gwahanol offerynnau i sut i fynd ati i gychwyn band.

Mae’r ddau du ôl i’r busnes wedi bod yn ffrindiau ers ysgol gynradd, gydag Osian bellach yn astudio Cerddoriaeth yn Coleg Menai, a Hedydd yn Brentis Creadigol gyda Fran Wen a’n cyfarwyddo ffilmiau yn ei amser rhydd.

“Dwi’n gwneud ffilmiau ac mae Osian yn creu miwsig, mae’r ddwy elfen wahanol yn dod a’r busnes at ei gilydd yn dda,” meddai Hedydd.

Mae profiadau’r ddau fachgen hefyd am ddylanwadu ar gynnwys y wefan, gyda gwersi ar elfennau ymarferol fel sut i ysgrifennu caneuon a sut i gychwyn band yn rhan o’u cynnig. A thrwy gyfweliadau a phobl sydd eisoes wedi llwyddo i fynd ati i adeiladu gyrfa mewn cerddoriaeth yng Nghymru, maen nhw’n gobeithio ysbrydoli ac addysgu pobl o’r wahanol lwybrau posib i mewn i’r maes.

Datblygu busnes yn lleol

Fel rhan o’u gwaith datblygu’r busnes newydd, roedd y bechgyn yn ffodus o gael eu derbyn ar gynllun Llwyddo’n Lleol ar gychwyn y flwyddyn. Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect gan Menter Môn sy’n herio’r dybiaeth fod yn rhaid gadael er mwyn llwyddo. Fel rhan o’r cynllun, fe wnaeth Hedydd ac Osian cymryd rhan yn y cynllun 10 wythnos, ynghyd a 6 person ifanc arall o Wynedd a Môn, i’w helpu i gynllunio a datblygu’r fenter yn eu hardal leol, a derbyn grant o fil o bunnau i’w wario ar y busnes.

Mae’r ddau yn falch iawn o allu datblygu Tonfedd Arall yn eu hardal leol, ac wedi i’w ysbrydoli o weld gymaint o bobl ifanc eraill o’r Dyffryn ac ardal gyfagos hefyd yn dewis dod yn entrepreneuriaid.

“Mae’n ffantastig gweld gymaint yn mynd amdani i gychwyn busnes,” meddai Osian, “Mae llwyth gyda’r skillset, ac mae o’n grêt gweld nhw’n cael yr hyder i jest go for it.

Mae gallu datblygu busnes trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn bwysig iawn iddynt.

“Mae ‘na lot o fodeli danysgrifio yn Saesneg fatha Skillshare a Masterclass, ond does ’na ddim un yn Gymraeg,” meddai Hedydd, sy’n gobeithio bydd yr iaith yn arf i’w helpu sefyll allan oddi wrth y gystadleuaeth.

Edrych i’r dyfodol

Gobaith y bechgyn yw lansio’r wefan erbyn yr Haf, a’i ddiweddaru’n gyson a gweithgar a chyfweliadau newydd. I’r dyfodol, hoffent nhw adeiladu ar y wefan i gynnwys dosbarthiadau gan bobl sy’n arbenigwyr yn y maes.

Byddwch yn siŵr o ddilyn Tonfedd Arall ar Facebook ac Instagram i ddilyn siwrne datblygiad y fenter, ynghyd a chyfle i roi adborth a sawl blas arbennig o beth i’w ddisgwyl o fewn y gwersi.

1 sylw

Lleu - Papur Bro Dyffryn Nantlle
Lleu - Papur Bro Dyffryn Nantlle

Sioned – ydi hi’n iawn cynnwys dy erthygl (efo cydnabyddiaeth) yn Lleu mis yma?
Diolch
Heulwen

Mae’r sylwadau wedi cau.