Llyfrgell Petha i Ddyffryn Nantlle yn y flwyddyn newydd  

Prosiect ‘Petha’ yn annog trigolion i rannu barn, a rhannu ‘Petha’!      

Catrin Petha
gan Catrin Petha

Mae ‘Petha’ yn brosiect newydd yng Ngwynedd sydd yn ceisio sefydlu Llyfrgell y Petha mewn tair cymuned led-led y sir: Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Bro Ffestiniog.  Fel eglura Cydlynydd Petha, Catrin Wager:

‘Mae’r syniad tu ol i Lyfrgelloedd Petha yn syml – ma nhw ‘run peth a llyfrgell draddodiadol, ond yn hytrach na benthyg llyfrau, mae modd benthyg petha!  Drwy fenthyg a rhannu yn hytrach na phrynu, gellir arbed arian, arbed gofod yn eich cartrefi, lleihau gwastraff a lleihau eich ol-troed carbon.”

“Un o’r camau cyntaf ydy ymgynghori hefo’r cymunedau am beth hoffe nhw ei weld yn eu llyfrgell petha nhw ac mae’r ymgynghoriad bellach yn fyw a gellir canfod linc ar ein ffrydiau cymdeithasol (@pethagwynedd ar facebook a twitter).  Yr ail gam ydy ceisio casglu ‘Petha’ i’r llyfrgell, ac mae Llyfrgell Penygroes yn mynd i fod yn derbyn rhoddion tan y Nadolig.  Fydd yr eitemau yma wedyn yn cael eu cynnig ar fenthyg i’r gymuned drwy’r Llyfrgell Petha.’

Mae Petha yn chwilio am ystod eang o eitemau; o dools i offer garddio, nwyddau campio, teganau, gemau ac offer crefftio.  Fel eglura Catrin “ Da ni’n chwilio am y math y betha da chi’n prynu, ond ddim yn eu defnyddio’n aml.  Esiamplau da fydda teclyn stripio papur wal; y math o beth da chi’n ddefnyddio un waith, ond wedyn ma’n eistedd ar silff am flynyddodd, neu jetwasher sydd ella’n cael ei ddefnyddio unwaith y flwyddyn, ond yn eistedd yn segur weddill yr amser.”

“Da ni’n fodlon derbyn unrhyw beth allai fod yn fuddiol i eraill, gyda un ystyriaeth bwysig; rhaid iddyn nhw fod yn addas i eraill eu defnyddio.  Felly mae’n rhaid iddyn nhw fod yn lan, yn gyflawn ac yn gweithio!’ 

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Dolan, sy’n rwydwaith o dair menter gymunedol; Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog, ac Yr Osaf,  mewn partneriaeth a Cyngor Gwynedd.  Fel eglura un o bartneriaid y prosiect, Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen

‘Prosiect i atal tlodi a gweithredu ar faterion newid hinsawdd ydy hwn yn ei hanfod.  Rydym yn ceisio annog diwylliant o rannu a chyd-berchnogi i herio’r dywilliant o or-brynu sydd mor niweidiol i’n planed ni.  Bydda’n wych clywed barn trigolion Dyffryn Nantlle am y prosiect yma, a bydd yr adborth yn helpu llywio cynnwys y Llyfrgell pan mae’n agor.’

Dywed Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd, “Da ni’n falch iawn o weld Petha’n cael ei beilota yn ein Llyfrgelloedd; mae’n esblygiad naturiol o rol llyfrgelloedd ac yn rhoi gogwydd newydd i wasanaeth sy’n gyfarwydd iawn i ni.  Gall Llyfrgelloedd y Petha ddod a buddion amlwg i’r amgylchedd, ac i’n trigolion, ac mae’n adeliadu ar y syniad o fenthyg sydd wedi bod yn sylfaen i Lyfrgelloedd erioed.  ”

Gellir canfod mwy o wybodaeth gan ddilyn Petha ar Twitter neu Facebook  @pethagwynedd, neu drwy ebostio’r cydlynydd prosiect catrin@ogwen.org