Llun y Llyn

Llun 250 oed am ei leoli ger Llyn Nantlle

angharad tomos
gan angharad tomos
Snowdon From Llyn Nantlle

Mae Dyffryn Nantlle 20/20 wrth eu bodd eu bod wedi cael grant Cronfa Treftadaeth y Loteri i dynnu sylw at lun Richard Wilson yn Nantlle.

Ym 1766, peintiodd yr artist o Gymru, Richard Wilson, y llun hynod ‘Snowdon from Llyn Nantlle‘ ac mae i’w weld yn Oriel Walker yn Lerpwl. Mae’n lun hanesyddol gan iddo newid agwedd artistiaid at Gymru, a denodd artistiaid fel Turner ac eraill i ymweld â Gogledd Cymru.

Y bwriad yw ennyn diddordeb yn yr hanes drwy gael copi o’r llun ar hysbysfwrdd ar y ffordd i Nantlle. Gall pobl edmygu’r union olygfa ysbrydolodd Wilson gan nad yw wedi newid fawr ers 250 mlynedd. Eto, dim ond o edrych i’r cyfeiriad arall, ac mae’r tirwedd wedi newid yn llwyr oherwydd y diwydiant chwareli.

“Ein bwriad yw cael gweithdai yn yr ysgolion lleol i blant gael dysgu am y llun a’i bwysigrwydd. Mae cysylltiad diddorol arall gan mai cefnder i Wilson oedd yn byw yn Pant Du, ac mae’n siwr mai yno roedd o’n aros tra’n peintio’r llun” meddai Angharad Tomos. “Yr hyn ysbrydolodd y cais oedd gweld Huw Stephens yn rhoi hanes y darlun yn ei gyfres The Story of Welsh Art.”

Mae Dyffryn Nantlle 20/20 yn trefnu gweithgareddau i bobl ifanc yn y cylch ac yn cynnig cyfleoedd iddynt ddysgu am eu hardal.