Llety newydd sbon yn y Dyffryn

Ar ôl gweithio’n galed i adnewyddu hên adeilad Siop Griffiths, mae’r llety wedi agor ar ei newydd wedd.

greta
gan greta
20210501-_MG_8515-Edit-Silyn

Ystafell Silyn

20210501-_MG_8541-Edit-Llifon

Ystafell Llifon

20210501-_MG_8594-Dulyn

Ystafell Dulyn

Mae’n siwr eich bod yn gyfarwydd â chaffi a menter gymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes. Mae’r caffi wedi bod yn leoliad poblogaidd a llwyddiannus ers iddo agor ym mis Chwefror 2019.

Ond, oeddech chi’n gwybod bod gwaith adnewyddu wedi bod yn mynd ymlaen i greu llety gwyliau newydd sbon?

Ers misoedd, mae’r criw wedi bod yn brysur yn ail-wneud y lloftydd sydd uwchben y caffi er mwyn cynnig lle aros i ymwelwyr.

Mae’r adeilad wedi ei drawsnewid yn llwyr ac erbyn hyn ceir 3 ystafell wely chwaethus hefo ystafell folchi breifat yn ran ohonynt. 

Mae’r ystafelloedd wedi eu henwi’n addas i gyd-fynd â ardal Dyffryn Nantlle: Ystafell Llifon, Dulyn a Silyn. 

Mae’r adeilad hanesyddol yn dyddio nôl i 1829 pan oedd yn arfer bod yn dafarn. Llwyddodd y grwp i gasglu dros £50,000 i sicrhau pryniant yr adeilad yn 2016 ac ers hynny wedi derbyn nifer o grantiau gan y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a mwy. 

Mae’r arian wedi mynd at ddefnydd da gan fod yr adeilad rwan yn cynnig profiadau cyfoethog i drigolion y gymuned yn ogystal â ymwelwyr. 

Bydd y wefan newydd yn cael ei lansio dros y dyddiau nesaf a bydd modd archebu ystafell drwy’r wefan. Neu, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’r Orsaf: post@yrorsaf.cymru/ 07410982467