Lleisiau’r Dyffryn ar Facebook!

Nod Prosiect 15 yw rhoi ‘platfform i leisiau Dyffryn Nantlle.’

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Untitled-design-4

Blas ar y cynnwys sydd ar gael fel rhan o Brosiect 15

Mae’r prosiect yn gyfres o ddigwyddiadau a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n bwriadu rhoi ‘platfform i leisiau’r Dyffryn’, a dathlu ‘hanes, etifeddiaeth, diwylliant, iaith, a phresennol cyffrous ac amrywiol yr ardal.’

Yn rhan o’r dathliadau mae cynghorion gan fusnesau’r ardal, ymddangosiadau gan lenorion sy’n cynnwys Angharad Tomos a Megan Angharad Hunter, a fideos gan ddysgwyr o’r ardal.

Bydd digwyddiad Facebook hefyd yn dathlu merched y Dyffryn, i gyd-fynd ag wythnos ryngwladol y merched ym mis Mawrth.

Er mwyn ymuno â’r dathliadau, hoffwch dudalen Prosiect 15, a chadwch lygad am gynnwys. Bydd y cynnwys hefyd yn cael ei lwytho i dudalen AM Prosiect 15.