Jamie Thomas  yn ymuno gyda Clwb pêl-droed Nantlle Vale!

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain
AB4A2113-F9EC-4DC9-B998

‼️Chwaraewr Newydd‼️

?Jamie Thomas yn ymuno gyda’r clwb.⚪️

Croeso cynnes i Jamie sydd yn ymuno a’r clwb o dîm dan 19 Gaernarfon ac yn gyn chwaraewr i dim Bangor 1876. Mae Jamie hefyd wedi cynrychioli tim ysgolion Cymru yn 2020 ac yn fab i gyn reolwr y clwb Craig Thomas. Braf gweld hogyn ifanc a lleol yn dychwelyd adref!

Dyma eiriau gan y rheolwr Sion Eifion ⬇️

“Rydym wrth ein boddau gallu cadarnhau fod un o dalentau fwyaf addawol y Dyffryn yn dychwelyd i’r clwb. Mae Jamie wedi dangos ei gryfderon yn barod yn ystod y gemau cyn-dymor a dwi’n siwr y bydd o’n parhau a hynny i mewn i’r tymor. Mae o’n amddiffynnwr cryf ond hefyd yn gyffyrddus iawn ar y bel. Yn ychwanegol, mae’n braf gweld hogyn ifanc a lleol yr ardal yn dychwelyd adra i’w glwb. Croeso JT!”

Jamie ⬇️

“Dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr iawn i ymuno efo Nantlle Vale a’r criw ar ôl bod yn rhan o’r  ymarferion cyn dymor. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r tîm cyntaf ar ôl y blynyddoedd gan dyma le dechreuais chwarae pêl-droed. Dwi’n edrych ’mlaen i roi’r crys glas ’mlaen eto a gallu chwarae ar Faes Dulyn.”

Croeso i’r clwb Jamie Thomas?