Jamie Jones yn ymuno gyda Clwb pêl-droed Nantlle Vale!

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain
160C830F-82A5-40DF-82E9

‼️Chwaraewr Newydd‼️

?Jamie Jones yn ymuno gyda’r clwb.⚪️

Croeso cynnes i Jamie sydd yn ymuno a’r clwb o dîm dan 19 Gaernarfon. Mae amryw o deulu Jamie wedi cynrychioli y Fêl ar hyd y blynyddoedd a Jamie nawr yn dilyn eu llwybr. Braf eto gweld hogyn lleol yr ardal yn dychwelyd i’w glwb!

Dyma eiriau gan y rheolwr Sion Eifion ⬇️

“Braf yw cael cyhoeddi fod Jamie yn ymuno a ni. Mae Jamie yn ymosodwr talentog ac yn barod wedi gwneud ei farc ar y tim gyda ei goliau yn y gemau cyn dymor. Mae ganddo y ddawn o fynd heibio ei ddyn ac yn gwybod sut i roi y bel yn y rhwyd. Yn 17 mlwydd oed mae ganddo ddyfodol disglair iawn yn y gem a rydym ni gyd yn falch ei fod o yn parhau ei ddatblygu yma gyda ni yn Fêl. Croeso J!”

Croeso i’r clwb Jamie Jones ?