Ar ôl misoedd eto o aros adref a chyfnod clo , gafodd hogiau Fêl ddychwelyd nôl i sesiynau hyfforddi a chychwyn gemau cyn-dymor dan arweiniad Daniel Bell a Sion Eifion.
Gêm gyntaf o’r gemau cyn-dymor y tîm cyntaf oedd yn erbyn Llanrug United FC ar gae 3G Plas Silyn nos Iau 27 o Fai. Y sgôr terfynol oedd Nantlle Vale 2 – Llanrug 0. Goliau gan Aled Williams a Sion Parry. Da iawn hogiau! Bydd fideo uchafbwyntiau o’r gêm yn cael ei gyhoeddi wythnos yma ar gyfryngau cymdeithasol y clwb.
Chwaraeodd y tîm cyntaf gêm arall yn erbyn Bangor City ar brynhawn Sadwrn pumed o Fehefin. Y sgôr terfynol oedd Bangor City 5 Nantlle Vale 0.Da iawn hogiau am frwydro a chadw eu pennau fyny nes at y chwiban olaf! Braf iawn oedd gorffen y gêm gyda hogiau lleol i fyny ffrynt, Math Jones (17 oed) a Llion Griffiths (16 oed).Llongyfarchiadau mawr Llion am wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf ar ôl fod yng nghofal Steve Inch , tîm dan 16 Nantlle Vale. Da iawn Llion!
Dyma restr gemau cyn-dymor y tîm cyntaf eleni.
12/6/21-Mountain Rangers (A) Cic gyntaf 12pm
17/6/21-1st Battalion The Royal Welsh ( 3G Plas Silyn) Cic gyntaf 7:15PM
19/6/21-Llannerchymedd (A)
26/6/21-Llansannan (H) Cwpan Orig Williams
3/7/21 -Holyhead Hotspur (H)
10/7/21-Cheltenham Civil Service FC (H)
(Amseroedd eraill y gemau i’w gadarnhau)
Er mwyn dilyn mwy o’r clwb , cofiwch ddilyn ein cyfryngau cymdeithasol @NantlleValeFC ,Facebook, Twitter a Instagram.
Diolch yn fawr
Begw Elain