‘Pob lwc hogia!’ 

– anogaeth fawr i dîm Cymru gan bobol fach Rhostryfan

Non Gwenhwyfar Tudur
gan Non Gwenhwyfar Tudur

Mi gafodd tîm pêl-droed Cymru lwyddiant anhygoel yn yr Ewros neithiwr – gan drechu tîm Twrci 2 – 0.

Beth oedd y rheswm, tybed? Tactics clyfar y rheolwr Robert Page? Sgidiau eirias Gareth Bale? Wel, naci, siŵr iawn. Mae’r diolch i blantos bach siriol Cylch Meithrin Rhostryfan!

Yn y Cylch bore ddoe, cyn y gêm fawr am 5pm, mi fuodd y plant yn bloeddio’u dymuniadau gorau i’r sgwad yn eu ffordd hwyliog nhw eu hunain. A dyma brawf o hynny, diolch i’r staff gweithgar a fideo gan yr Arweinydd Catrin Glyn Owen.

Ond cofiwch chi, dydi pob un wan jac ohonon ni ddim yn licio chwarae ffwtbol… nag’dyn, Lili?!

“Mae hi’n bwysig bod y plant yn cael cyfle i ymuno mewn dathliadau fel hyn,” meddai Catrin Glyn Owen. “Mae hi’n bwysig ein bod yn dathlu Cymreictod. Mae adegau fel’ma yn dŵad â phawb at ei gilydd, ac mae’r plant i gyd wedi mwynhau cael gweithio fel tîm.”

I’r rownd nesa’?

Aaron Ramsey a Connor Roberts sgoriodd y ddwy gôl dros Gymru yn erbyn Twrci neithiwr ym mhencampwriaeth yr Euro 2020. Mae Cymru rŵan mewn lle da i fynd drwodd i Rownd yr 16 Olaf.

Os cân nhw gêm gyfartal yn erbyn yr Eidal yn y Stadio Olimpico yn Rhufain ddydd Sul, fe fyddan nhw’n ail yn y grŵp ac yn sicr o’u lle yn y rownd nesaf.

Mae Cymru v Yr Eidal yn dechrau am 5pm ddydd Sul. A fyddwch chi’n gwylio fel plantos Cylch Meithrin Rhostryfan?

Diolch yn fawr i’r plant i gyd am y fideo – Elis, Nedw, Wren, Mia, Esmi, Emilia, Robyn, Eli, Lili, Wil, Enid, Eli Ann, ac Ani.