GwyrddNi yn Nyffryn Nantlle

Mudiad newydd i ddysgu, trafod a gweithredu ar yr hinsawdd yn Nyffryn Nantlle

gan Elan G Muse
GwyrddNi-Logo_Colour-Mixed-2

GwyrddNi

Dyffryn Nantlle o ben Mynydd Eliffant

Dyffryn Nantlle o ben Mynydd Eliffant

Grug yn Llyn Nantlle

Grug yn Llyn Nantlle

Grug, hwylysydd Dyffryn Nantlle

Grug, hwylysydd Dyffryn Nantlle

Caewch eich llygaid (dwi’n gwybod fod darllen efo llygaid ar gau yn anodd, ond trïwch eich gorau).

Dychmygwch eich bod chi’n sefyll reit ar dop Dyffryn Nantlle. Ryda chi’n sefyll rhywle wrth Fwlchgylfin – mae Rhyd Ddu tu ôl i chi, a Drws y coed o danoch chi. Mae Crib Nantlle ar y chwith, a Mynydd Eliffant ar y dde, ac maen nhw’n fframio’r olygfa o’ch blaena’ chi. Mae’r dyffryn yn gul a serth yn fa’ma, ac mae ’na olion fod pobol wedi byw yma ers miloedd o flynyddoedd.

Wrth i chi symud ar hyd y dyffryn, mae Llyn Nantlle yn dod i’r golwg, mae’r dyffryn yn lledu, mae ’na ffermydd, pentrefi, capeli, chwareli. Mae Dorothea, oedd yn un o chwareli mwya’r byd ar un adeg rŵan yn goedwig. Ac ar y llethrau uwch mae’r tir glas yn troi’n gorsydd a mawnogydd sy’n storio tunelli o garbon. Ymlaen eto, ac rydan ni’n dilyn afon Llyfni, sydd yn dilyn llinell syth o Nantlle i Benygroes, dros dir oedd yn arfer bod yn llyn nes i’r chwareli ddraenio’r llyn a chloddio ffos ar gyfer yr afon.

Heddiw, mae’r afon yn llawn sewin a brithyll, ond hefyd carffosiaeth sy’n cael ei dywallt mewn iddi hi o’i bryd i’w gilydd.

Ymlaen eto at Benygroes, a rŵan mae pethau’n prysuro go iawn, yn dai a siopau a ffatrïoedd a lonydd mawr, rhai o rheini yn arwain lawr, heibio ymyl wal Glynllifon, efo’u coed a’u hystlumod prin, lawr at Ddinas Dinlle, cartre’ Boncan Dinas, bryngaer o’r oes haearn sydd yn araf bach syrthio i mewn i’r môr fesul darn bob blwyddyn.

Dwi eisiau i chi drio rhestru pob man yn Nyffryn Nantlle lle rydach chi yn medru mynd i ymlacio.

Rhestrwch bobman lle allwch chi ddod o hyd i goed hynafol.

Rhestrwch bobman lle allwch chi fynd i gwrdd â ffrindiau.

Rhestrwch y llefydd fyddwch chi’n mynd yn yr haf.

Rhestrwch y llefydd fyddwch chi’n mynd yn y gaeaf.

Rhestrwch lefydd sydd o fewn pellter cerdded diogel i chi.

Rhestrech lefydd allwch chi fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rhestrwch ble sy’n gwerthu bwyd fforddiadwy.

Rhestrwch ble sy’n gwerthu cynnyrch lleol.

Rhestrwch lefydd sy’n edrych yn well rŵan, nag oedden nhw 5 mlynedd yn ôl.

Gewch chi agor eich llygaid rŵan.

*

Mae GwyrddNi yn fudiad newydd sy’n gweithio yn Nyffryn Nantlle, a phedair ardal arall yng ngogledd Gwynedd, i drefnu Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd.

Be ydi Cynulliad Cymunedol? Maen nhw’n perthyn i Gynulliadau’r Bobol, neu Gynulliadau Dinasyddion, sef yn ei hanfod, ffordd o wneud penderfyniad. Yn hytrach na gofyn i wleidyddion wneud penderfyniadau, mae grŵp o bobol yn dod at ei gilydd i ddysgu a thrafod gwahanol faterion, a dod i benderfyniad.

Yn achos ein Cynulliadau ni, mi fyddwn ni’n cael croestoriad o bobol sy’n cynrychioli’r holl wahanol bobol sy’n byw yn Nyffryn Nantlle. Mi fyddwn ni’n cwrdd dros gyfnod o fisoedd i ddysgu mwy am effeithiau’r argyfwng hinsawdd, a gwahanol ffyrdd o ddad-garboneiddio, a byw’n fwy gwyrdd. Mi fydd aelodau’r Cynulliad yn llywio cyfeiriad y drafodaeth, ac ar y diwedd bydd gennym ni gasgliad o syniadau am bethau all weithio yn Nyffryn Nantlle.

Syniadau gan bobol Dyffryn Nantlle, wedi eu creu gan gadw hanes, diwylliant, cymuned ac economi Dyffryn Nantlle mewn cof wrth eu llunio.

Fi, Grug, sy’n hwyluso’r Cynulliad yn Nyffryn Nantlle. Dwi’n dod o Garmel yn wreiddiol, yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle. Fedrwch chi ddod o hyd i fi yn ystod yr wythnos yn gweithio o’r Orsaf ym Mhenygroes, felly os hoffech chi ddysgu mwy am waith GwyrddNi, beth ydi Cynulliad Cymunedol, neu dim ond eisiau busnesu, croeso i chi ddod draw am sgwrs – holwch Jim yn y caffi os ydi Grug o gwmpas yn y cefn!

Neu i gysylltu dros ffon neu ebost, gyrrwch neges i grug@deg.cymru neu rhowch ganiad i 07536974930