Fideo Rhosgadfan yn COP26

Dangoswyd ‘Blot-deuwedd’ yn Glasgow fis Tachwedd

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Dangoswyd fideo byr Ysgol Rhosgadfan yn uwch-gynhadledd newid hinsawdd COP26 ym mis Tachwedd.

O ganlyniad i waith yr ysgol ar COP26, dangoswyd y ffilm 10 munud ar ran Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfydol yn Glasgow ar Tachwedd 12fed.

Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru draw i gyfarfod â’r plant i glywed am eu cynlluniau siarter hinsawdd a’u prosiect ynys blastig. Dywedodd bod gan y plant “lot fawr iawn o frwdfrydedd am yr angen i fynd i’r afael â newid hinsawdd!”

Gallwch wylio’r ffilm ‘Blot-deuwedd’ yma.