Edrych ‘mlaen i’r tymor newydd-CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

O’r diwedd, mae’r penwythnos lle mae cynghreiriau clybiau pêl-droed lleol yn cychwyn wedi cyrraedd!?

Prynhawn fory mi fydd tymor Nantlle Vale yn cychwyn gyda gêm adref yn erbyn Denbigh  Town.Mi fydd y gic gyntaf am 14:30 a chroeso i unrhyw un ddod i wylio.Mi fydd y siop ar agor gyda digon o fwyd cynnes a danteithion melys ar gael.

Heno mi fydd y  tymor yn cychwyn i’r ail dîm gyda gêm i ffwrdd yn erbyn St Asaph.Y gic gyntaf am 7 o’r gloch.

Dyma yw’r pris mynedfa tymor yma

Gemau Tîm Cyntaf

Oedolion £4.00
Pensiynwyr £2.50
Ieuenctid £2.00
16-17 oed.
Plant £1.00
11-15oed.

Ail Dîm

Oedolion £2.00
Pensiynwyr £1.50
Ieuenctid £1.00
16-17 oed
Plant £1.00
11-15 oed.

Edrychwn ‘mlaen i weld wynebau hen a newydd a chofiwch mi fydd fideo uchafbwyntiau o’r gêm erbyn Dinbych ar gyfryngau cymdeithasol y clwb wythnos nesaf.