Y Dyff Digidol

Newyddion Ysgol Dyffryn Nantlle

gan Elen Gwenllian Hughes

Gan ein bod ni’n parhau i ddysgu ar-lein, roedd hi’n amhosibl mynd ati i greu copi arferol o’r papur newydd yn yr ysgol yr hanner tymor hwn. Yn hytrach, dyma fynd ati i rannu ychydig o straeon o’r ysgol dros yr wythnosau diwethaf…

 

Dyddiadur Dysgu!

Bu dosbarthiadau blwyddyn 8 yn dysgu am ysgolion ddoe a heddiw cyn i ni gau dros y Nadolig. Cafwyd cyfle i actio eu bod yn ddisgyblion mewn ysgol Fictorianaidd; cael eu rhannu yn fechgyn a merched, dweud gweddi a chael clywed am y gansan! Wrth gwrs, ar y funud, mae’r ffordd y mae’r disgyblion yn dysgu yn wahanol iawn i sut oedd hi gan ‘mlynedd yn
ôl..a d’eud y gwir mae’n wahanol i sut oedd hi gwta flwyddyn yn ôl! Aeth y disgyblion ati i ddisgrifio’r gwahaniaeth hyn mewn dyddiadur ‘dysgu dan-glo’, dyma waith Ryan Day, 8N…

 

Diwrnod 1

Dydd Mercher 27.1.2021

Wel am ddiwrnod diflas! Codais bore ma ag roedd hi yn bwrw glaw. Roeddwn wedi blino ac roedd gweld glaw ben bore roedd yn gwneud i mi deimlo’n ddifynadd.

Mae brys yn y bore, angen mewngofnodi i HWB cyn 09.10 y.b. Gwers gyntaf y bore yw Saesneg, roedd rhaid i ni gwneud gwaith am Gothic Literature. Roeddwn yn gweld y gwaith dipyn bach yn anodd…gorfod meddwl am drosiad, cyffelyb, berfau ag ansoddeiriau ben bore!

Am ddeg or gloch roedd gwers Dyniaethau, roedd rhaid i mi wneud gwaith am y Shabbat. Sut oedd Iddewon yn dathlu? Roedd y gwaith yma yn diddorol, gwylio fideo i weld sut oedd un teulu yn dathlu Shabbat pob wythnos. Teimlais fod hyn yn anodd iddyn nhw, doedden nhw ddim yn cael tanio sbarc, dreifio mewn car, gwylio’r teledu, edrych ar eu ffonau synudol. Fyswn i yn gweld hyn yn anodd iawn!

Yn y wers Gymraeg cefais dasg o ysgrifennu dyddiadur. Roedd rhaid i ni edrych ar y ffordd yr ydym ni yn dysgu heddiw yn wahanol iawn i sut oedd plant yn dysgu erstalwm, a dweud y gwir mae’r ffordd yr ydym ni’n dysgu rwan hyn yn wahanol i sut oedd plant flwyddyn yn ôl yn dysgu! Mae ysgolion wedi mynd ar stop, pawb yn gwneud gwaith o adra, ddim yn cael gweld ein ffrindiau na ymuno gyda chlwb peldroed.

Mae’n ddiflas weithiau, mae’n anodd canolbwyntio pan mae teledu omlaen fel temtasiwn. Mae’n rhyfadd cael gwers dros sgrin oherwydd dydi o ddim rhu fath a cael gwers yn ysgol. Mae’n llawer haws cael gwers yn ysgol oherwydd rydyw i yn deall y dasg yn well wrth ir athro/ athrawes egluro sut i wneud.

Mae mathemateg yn wers anodd i’w chael tu ôl i sgrin, mae’n anodd deall y gwaith oherwydd fel arfer mae Syr yn dangos y gwaith ar bwrdd digidol. Dwi yn teimlo fy mod yn gweithio yn well pa rydw i yn gweld y sym cyntaf ag wedyn mynd ymlaen i darfod gweddil or dasg. Erbyn hyn mae’n amser cinio ag mae fy mol i yn dechrau gwneud sŵn. Fy hoff fwyd i yw panini sosej, myffin a diod afal yn yr ysgol. Ond dyddiau yma dwi yn cael brechdan gaws, creision, iogyrt, ffrwyth a panad o de. Heb y siwgr i gadw’n iach!

Roedd hi yn ddiwadd dydd o weithio o adra, a’r dasg ddwythaf oedd i gerdded neu mynd ar beic gyda app strava. Erbyn hyn roedd hi dal yn bwrw glaw, felly ddim cerdded na reidio beic i mi. Mi wnesi i gario ‘mlaen gyda pwynt pwer cadw yn iach. Dwi di blino rwan, ac angen ymlacio. Dwi’n edrych ymlaen am dê, mi wnai ddeud wrth a chi y fory be gefais i. Welai chi yfory!

 

Diwrnod 2

Dydd Iau  28.1.2021

Cyri cyw iar gefais i dê! Mi oedd on flasus. Diwrnod gwell heddiw, oer iawn tu allan on o leiaf dydi ddim yn bwrw glaw.

Gwers gyntaf y dydd oedd technoleg gwybodaeth. Roedd rhai gwneud siapiau gwahanol yn defnyddio J2 code. Dwi’n teimlo yn hyderys yn y pwnc yma ac hefyd dwin mwynhau.

Yn yr ail wers ysgrifennais gân am y tymhorau, defnyddiais beth sydd yn digwydd i mi yn ystod y flwyddyn yn mha dymhorau a defnyddiais eiriau oedd yn odli ar ddiwedd pob pennill. Roeddwn yn teimlo fod y dasg yn anodd yn y cychwyn ond ar l cael dipyn bach o help mi wnesi ddeall y dasg.

Gwers tri oedd Saesneg, roedd rhaid defnyddio dipyn bach o sgiliau Technoleg gwybodaeth i’r wers yma. Rhoi syniadau lawr ar ‘Jamboard’ mewn grwpiau. Fedrai ddychmygu yn yr hen oes eu bod nhw’n ysgrifennu gyda sialc a darllen y Beibl. Mae’r oes wedi newid yn fawr iawn, dyddiau yma mae gwaith tu ôl i sgrin, diolch i’r Covid yma. Ond fysa llawer gwell gen i fod yn ôl yn yr ysgol gyda fy ffrindiau.

Yng nghanol y wers gwyddoniaeth cefais dost a marmaled gan Mam, ar un adeg roeddwn i’n teimlo fel ‘Paddington bear’. Mi wnesi fwynhau gwyddoniaeth wythnos yma, yn sôn am sut i gynhesu tŷ gyda deunyddiau fel ffenestri dwbwl, insulation, atal drafftiau a thermostat i reoli tymheredd. Roeddwn yn teimlo fod y gwaith yma yn hawdd, ac mi wnes i orffan yn sydyn iawn.

Gwers Olaf y dydd oedd Mathemateg, roeddem yn edrych ar adolyg gwaith i prawf gyda onglau, perimedr ac arwynebedd. Roeddwm yn teimlo yn bryderus braidd oherwydd fy mod i ddim yn deall yn iawn. Roedd rhaid gwneud taflen adolygu gyda esiamplau. Roedd hyn yn helpu adolygu at y prawf pwysig.

Gret, roeddwn wedi gorffen am y diwrnod!

 

Diwrnod 3

Dydd Gwener 29.1.2021

O bendigedig!! Mae hi bron yn benwythnos. Fedrai ddychmygu bore yfory yn barod gyda “lie-in”!! Ag arogl sosej yn mynd trwy’r tŷ… Diwrnod braidd yn ‘Uch a fi heddiw’. Styc yn tŷ unwaith eto!

Gwers gyntaf oedd Cerdd, roedd rhaid i mi orffan ysgrifennu fy nghân. Roedd rhaid i mi ofyn am barn fy Mam i weld os oedd yn iawn, roedd Mam wedi gwirioni fy mod i wedi odli geirau yn wych.

Gwers orau yr wythnos yw Dylunio a thechnoleg, pythefnos yn ôl cefais wneud cwcis. Wythnos yma dim ond angen gwneud cwis. Roeddwn wedi gwneud fy nghwaith i gyd!

Yn gwers tri, roeddwn yn adolygu Onglau yn fy llyfr Mathemateg. Edrychais ar fideo rhoddod Syr i fyny i fy helpu. Roeddwn yn teimlo’n well ar ol gwylio y fideo, oherwydd roedd yn egluro syt i gwneud pob cam.

Roedd genai dwbwl gwers Cymraeg ar Dydd Gwener, felly cychwyn y dyddiadu’r wrth ysgrifennu lawr pob dim wnaeth digwydd y diwrnod yna. Roedd rhaid i mi edrych ar y tabl pa wers oedd pryd er mwyn i mi ysgrifennu y gwaith roedd rhaid i mi wneud.

Y dasg olaf or diwrnod oedd edrych an llunaiu a dylunio fy hoff cymeriad sef Dyn enwog o enw Chris Froom sydd yn seiclo i tim Ineos Twr o amgylch Ffrainc. Roedd rhaid i mi edrych ar y siapiau a’i ddylunio yn ofalus, defnyddiais bensil a phapur a llaw astud.

Wel, diwrnod prysur eto heddiw. Ond yn falch fy mod i wedi gorffan. Rhaid ymlacio nawr gyda paned o dê a bisged digestif.

 

Bu disgyblion blwyddyn 7 wrthi’n ysgrifennu portreadau dros yr wythnosau diwethaf, a wir i chi mae nhw wedi bod yn gweithio’n galed dros ben. Mae’n amlwg fod yna bobl arbennig iawn yn Nyffryn Nantlle – mae’r dystiolaeth i’w weld yng ngwerslyfrau blwyddyn 7, coeliwch chi fi! Un o’r bobl rheini yw Nain Alaw Davies 7N…

 

Nain.

Mae Nain yn ddynes rhyfeddol. Mae hi’n gyfuniad ardderchog o gynhesrwydd a charedigrwydd, chwerthin a chariad.  Mae Nain yn esgeuluso fy niffygion, yn annog fy mreuddwydion, ac yn canmol fy holl lwyddiannau.  Mae gan Nain ddoethineb fel athrawes, diffuantrwydd ffrind da a theyrngarwch fel mam.  Mae hi yn berson rwyf yn barchu ac yn ei charu yn fawr iawn.  Bydd gan Nain bob amser le arbennig yn fy nghalon ac yn fy nghôf.  Rydw i eisiau iddi fod yn hapus drwy’r amser oherwydd yr hwyl rydw i yn ei gael yn ei chwmni ac y llawenydd mae’n dod i fy mywyd i. Mae Nain yn bopeth sy’n werthfawr ac yn annwyl mewn bywyd i mi.  

Person sy’n hynod o arbennig i mi ac yn cannwyll fy llygaid yw Nain.  Gwyneb hir a chrwn fel pel rygbi sydd ganddi ac arno fop o wallt brown, byr, tonnog.  Does dim steil penodol i’w gwallt.  Dim ond brwsh sydyn yn y bore ac i ffwrdd a hi.  Mae ei llygaid gwyrdd fel crisial emrallt hardd yn fach yn nyfnderoedd ei hwyneb crychiog. Mae Nain yn wên o glust i glust bob amser – gwên sy’n mynnu rhoi gwên ar eich wyneb chi.  Mae ganddi ddwylo gwyn gwythiennog fel darn o gaws stilton sydd yn creu ysgrifen fel traed brain. Mae Nain yn berson tal fel mast Nebo.  Corff cadarn fel carreg sydd ganddi ond eto ar y llaw arall mae Nain yn rhoi yr hygs gorau yn y byd! 

Dynes gareding iawn fel nyrs yw Nain.  Mae hi yn gofalu am bawb yn y teulu.  Hi yw’r glud sy’n dal pob dim efo gyda’i gilydd.  Hebddi fusawn i ar teulu i gyd ar goll.  Reit debyg i gi sydd wedi colli ei asgwrn!  Mae ei charedigwydd yn uwch na’r Burj Khalifa yn Dubai.  Byddai Nain yn wastad yn barod i helpu eraill, a phrin yn meddwl amdani ei hun yn gyntaf.  Os ydych angen cyngor am unrhyw beth yna Nain yw y gorau o’r goreuon.  Mae hi yn wybodus iawn fel gwyddoniadur.

            Dydi nain ddim yn nain draddodiadol sydd yn gweu, gwneud jig-so’s a gwneud croeseiriau yn y papur newydd.  Mae Nain yn hoffi cadw’n brysur oherwydd yn ei geiriau hi ‘mae’n helpu i beidio heneiddio’.  Mae Nain hefyd yn mwynhau cerdded ac mae hi yn rhan o glwb cerdded yn y dyffryn.  Mae’n hoffi cerdded gymaint y bu hi i gwblhau y “moonwalk” lawr yn Llundain.  Moment falch iawn!  Diddordeb arall sydd gan Nain yw nofio.  Ers pan oedd nain yn eneth ifanc iawn, roedd yn ffodus o gael byw o fewn tafliad carreg o’r môr.  Byddai Nain yn mynd i nofio bob bore cyn ysgol ac mae’n  cael yr un pleser heddiw pan fyddai yn nofio, boed hynny yn y pwll nofio lleol neu yn y môr ar ddiwrnod poeth o Hâf.  Un o ddiddordebau arall sydd gan Nain ydi coginio.  Byddai Nain yn coginio bob math o bethau.  Ond, ei ffefryn yw cacenni.  Mae’r arogl yn tŷ Nain yn anfarwol.  Byddaf wrth fy modd yn mynd i dŷ Nain (a Taid) i gael coginio gyda Nain. Os nad yw Nain yn brysur iawn yn coginio, nofio neu cerdded yna bydd yn eistedd yn ei hoff le ar y soffa yn y parlwr gyda’i thraed i fyny a’i thrwyn mewn llyfr.  Nofelau rhamantus gan Danielle Steel a Catherine Cookson ydi ei ffefryn.

 Pan ddaw y Gwanwyn, byddwch yn sicr o weld Nain allan yn yr ardd.  Mae ganddi lawer o wybodaeth am blanhigion a blodau.  Mae’n mwynhau ymweld â Fron Goch er mwyn llenwi ei gardd gyda blodau a phlanigion o bob siâp, lliw a llun.  Ei hoff liw yw melyn oherwydd mae’n atgoffa o’r haul poeth yr Hâf a’i hoff flodyn sef ‘Carnations’. Elvis Presley yw ei hoff ganwr.  Mae ganddi gasgliad eang o’i recordiau ac yn ffan mawr!  Ar y llaw arall, dydi Nain ddim yn rhy hoff o lanhau, a cadw threfn ar y tŷ.  Mae hi yn casau glanhau y popty, joban i Taid ydi honna!  Dydi hi ddim yn dda iawn efo technoleg chwaith ac felly yn aml yn gofyn i rhywun arall ei wneud o drosti.  Dydi Nain ddim yn gwylltio yn aml, efallai unwaith bob lleuad llawn.  Ond, pan mae Nain yn gwylltio’n gacwn y peth gorau i wneud ydi cadw’n glir a gadael llonydd iddi.  Does ddim llawer o bethau yn gwneud ei gwaed ferwi.  Un o’r pethau fydd yn ei gwylltio yw pan mae rhywun yn dweud celwydd wrthi.  Un arall ydi, Taid pan fyddai o ddim yn gwrando arni.  Yn ôl Taid, Nain ydi brenhines a bos y tŷ!! 

            Mae gen i lawer o atgofion melys yng nghwmni Nain.  Un ohonynt sydd yn sefyll allan ac wedi aros yn fy nghôf ydi pan oeddem ar wyliau yn Barcelona.  Roedd hi yn ddiwrnod poeth iawn ac roedd Nain a mi yn awyddus iawn i fynd i nofio yn y môr.  Roedd yn rhaid i ni ddeall y map gyntaf er mwyn cael gwybod ble roedd y lan y môr.  Ar ôl deall y map, y cam nesaf yn yr antur oedd ffeindio ffordd yno.  Roedd angen i ni ddal dau fws gwahanol er mwyn cyrraedd lan y môr.  Hip! Hip! Hwre! Roeddem wedi cyrraedd o’r diwedd.  Roedd y siwrne yn hir iawn ac roedd yn teimlo yn ddi-ddiwedd.  Ar ôl camu oddi ar y bws roedd gwres yr haul yn ein taro ac sŵn y tonnau yn y cefndir.  Roedd y lan y môr yn orlawn gyda pobl ym mhob man.  Aeth Nain a fi i chwilio am le er mwyn rhoi ein eiddo.  Fe wnaethom ffeindio darn o dywod oedd ddim rhy bell o’r môr.  Tynnodd Nain a fi ein dillad ac roeddem yn gwisgo ein gwisg nofio o dan ein dillad yn barod.  Cychwynnodd Nain a fi gerdded i lawr tuag at y môr.  Roedd y tywod yn berwedig o boeth ac roeddwn i yn cerdded debyg iawn i madfall a oedd yn cerdded ar ddŵr!  Cyrhaeddom y môr a neidiodd Nain i fewn i’r môr heb ddim ffws.  Roeddwn i ar y law arall yn cerdded i’r môr yn ofalus.  Ymhen ychydig o funudau roedd Nain yn eistedd ar wely’r môr yn mwynhau ei hunain a finnau yn brysur yn nofio.  Yna, penderfynodd Nain i geisio codi i fyny ond roedd yn ei chael yn anodd oherwydd roedd y tonnau yn ei tharo drosodd fel tunnell o frics!  Ddigwyddodd hyn sawl gwaith a dechreuodd Nain a minnau chwerthin fel pethau gwirion.  Roedd y chwerthin wedi tynnu sylw y ‘locals’ a’r twristiaid a dechreuodd bobl ymuno yn y chwerthin a recordio Nain ar eu ffonau symudol yn trio codi ar ei thraed.  Roedd pawb yn edrych ar Nain druan ac roedd gen i lot o gywilydd ac roeddwn yn trio helpu Nain i godi ond roeddwn i rhy wan i’w helpu.  Ar ôl sawl tro, llwyddodd Nain i godi ar ei thraed ac yna daeth y floedd fwyaf o HWRE!!!!!! gan y ‘locals’ a’r twristiaid.  Ar y foment yno, cerddodd Nain a fi yn nôl i’r darn o dywod ble roedd ein heiddo a sychu ein hunain gyda tywel a gwneud ein ffordd adref. DIwrnod bythgofiadwy!

Nain bach annwyl,

Nain bach fi.

Fi biau Nain

A Nain biau fi!

 

Cyflwyniad arbennig i’r criw Addysg Gorfforol.

Cafodd ddosbarth TGAU blwyddyn 10 gyflwyniad arbennig brynhawn Iau, Chwefror 11eg, gan yr Athro Graeme Close. Ar hyn o bryd, mae Graeme yn gweithio fel Maethegydd Chwaraeon i dîm rygbi rhyngwladol Lloegr. Bu hefyd yn gweithio gyda thîm pêl droed Everton. Bu’n brofiad a hanner i’r disgyblion gael gofyn cwestiynau i unigolyn â blynyddoedd o brofiad o fewn y byd chwaraeon. Hyd yma, mae Graeme wedi gwneud sesiwn holi ag ateb gyda 25 o ysgolion, ond roedd wirioneddol wedi gwirioni gyda rhai o’r cwestiynau a gafodd gan ddisgyblion YDN gan nodi ar Twitter:

‘Really enjoyed today’s one with some brilliant questions from the students. The bar has been set for the questions.’

Diolch o galon iddo, a diolch yn fawr iawn hefyd i ddisgyblion blwyddyn 10 am fanteisio ar y cyfle.

 

YMATEB CORFF LLYWODRAETHWYR YSGOL DYFFRYN NANTLLE I’R YMGYNGHORIAD ANSWYDDOGOL I GYNLLUNIAU ADDYSG ÔL-16 YN ARFON

Sefydlwyd gweithgor gan Gorff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle er mwyn darparu ymateb i ymgynghoriad answyddogol yr awdurdod. Roedd aelodau o’r Corff a’r staff ysgol yn rhan o’r gweithgor hwn.

Wrth ymateb i’r drafodaeth mae’r gweithgor wedi ymateb gyda meddwl agored ac ymdrin â’r  ‘sgwrs fawr’ fel cyfle i adlewyrchu ar y ddarpariaeth ôl-16 gyfredol.

Mynegwyd balchder gan y staff yng nghanlyniadau ôl-16 yr ysgol. Mae’r cyfraddau A – A* wedi  cynyddu dros y tair blynedd diwethaf gyda 34.6% yn llwyddo i gael gradd A – A* yn 2019. Roedd y gyfradd A* – C yn 77.4%  a llwyddodd pob pwnc i gyrraedd 100% o raddau A*-E.

Llwyddodd 97% o’n disgyblion i ennill  Tystysgrif Her Sgiliau o gymharu â 76.9% ar draws Gwynedd a 71.6% yng  Nghymru.  Cyfeiriwyd yn benodol at ganlyniadau’r Adran Gymraeg, Gwasanaethau Cyhoeddus a’r BAC sy’n  sefyll allan ar draws Gwynedd a Gogledd Cymru.

Mae’r gyfradd o ddysgwyr ôl-16 sy’n parhau gyda’u  hastudiaethau pellach neu’n mynd yn syth i fyd gwaith yn uchel iawn, ac yn ben ac ysgwydd yn uwch na’r cyfraddau cenedlaethol. Caiff y rhan fwyaf o’r myfyrwyr fynediad i’r Brifysgol neu Goleg o’u dewis.

Mynegwyd pryder gan y Gweithgor nad oedd cyflwyniad yr awdurdod yn darparu canlyniadau’r darparwyr addysg eraill ( hynny yw,  y colegau) er yr awgrymwyd bod canlyniadau’r darparwyr addysg yma’n gyffredinol yn ‘well’ na’r ysgolion.

Disgrifwyd y ddarpariaeth ôl-16 yn Ysgol Dyffryn Nantlle fel pont, yn pontio ein dysgwyr o fod yn bobl ifanc i fod yn oedolion.  Mae’r staff yn ymfalchïo o gael bod yn rhan o ddatblygiad personol a phroffesiynol y bobl ifanc yma. Roedd hi’n amlwg iawn bod staff yn cael pleser mawr o addysgu dysgwyr ôl-16 a threulio amser yn eu cwmni. Mynegwyd pryder am recriwtio staff i ysgol lle nad oes darpariaeth ôl-16, ac yn yr un modd gallai diddymu’r ddarpariaeth gael effaith ar gadw aelodau staff.

Pobl eu milltir sgwâr ar y cyfan ydi pobl Dyffryn Nantlle ac roedd hyn yn greiddiol i’r trafodaethau. Ond ar y llaw arall roedd y gweithgor yn awyddus iawn i beidio â bod yn ‘blwyfol’ ac i beidio ag edrych y tu allan i ffiniau’r Dyffryn.  Cafwyd enghreifftiau o ddysgwyr yn trosglwyddo’n ôl i Ysgol Dyffryn Nantlle ar ôl ychydig o wythnosau’n y colegau. Rhoddwyd enghreifftiau hefyd o ddysgwyr yn penderfynu dilyn cyrsiau ôl-16 am yr unig reswm, sef eu bod yn cael eu cynnig yn yr ysgol.

Nid oedd y gweithgor yn credu ei bod yn fanteisiol i ymdrin ag addysg ôl-16 yn y dyffryn mewn gwagle. Mae angen ystyried y ddarpariaeth yma yng nghyd-destun darpariaeth addysg ar draws y Dyffryn ac ar sail addysg gydol oes.

Roedd y gweithgor yn awyddus i weld parhad o addysg ôl-16 yn y dyffryn ond bod angen edrych ar y gwahanol fodelau posibl o gyflwyno’r addysg hwn.

Adnabyddwyd cyfleoedd o gyflwyno addysg ôl-16 yn y dyffryn yng nghyd-destun adnoddau cyfredol, cynlluniau’r dyfodol a buddsoddiad pellach.

Saif Ysgol Dyffryn Nantlle ar dir  sylweddol ac mae sgop i ail ddatblygu’r tiroedd yma. Mae canolfan Plas Silyn yn adnodd modern sy’n darparu cyfleoedd addysg gorfforol penigamp. Trafodwyd y potensial o gydweithio gyda champws Glynllifon  fel rhan o’r ddarpariaeth ôl-16 a’r posibilrwydd sy’n cael ei gynnig gan safle Glynllifon fel campws addysg fodern.

Mae cynlluniau arloesol yn cael eu datblygu’n Nyffryn Nantlle. Mae’r Cynllun Iechyd & Lles yn un unigryw ac uchelgeisiol ac mae’n arwyddocaol mai ym Mhenygroes mae’r datblgiad yma yn cymryd lle. Conglfaen y cynllun yma ydi pontio’r cenedlaethau  a byddai’r posibilrwydd o beidio â chael dysgwyr ôl-16 yn y dyffryn i fod yn rhan o’r cynllun yma’n gam niweidiol iawn.

Mae Cyngor Gwynedd wedi buddosddi £3.5miliwn yn y prosiect yma sy’n cynnwys – gwasanaeth iechyd, deintyddol, fferyllfa, gwasanaeth ataliol, gwasanaeth cymdeithasol , gofal pobol hŷn, swyddfeydd, meithrinfa a gofod celfyddydol – i gyd ar un safle.

Rhydd y datblygiad yma gyfle i ddarpariaeth addysg gwaith cymdeithasol gael ei ddatblygu yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Mae’r gofod celfyddydol yn rhoi cyfle i ddatblygu y ddarpariaeth drama ac artistig gyda’r adnoddau gorau posibl. Gwêl yr ysgol gyfle i gydwethio gyda Theatr Bara Caws ac i ddarparu cyrsiau theatrig o’r radd flaenaf. Ar y funud mae’r disgyblion yn trafeilio i Ynys Môn i ddilyn cwrs Drama Lefel A.

Mae mentergarwch yn y dyffryn yn ffynnu gyda phrosiectau arloesol Antur Nantlle a’r Orsaf yn rhoi canfas o gyfleoedd. Mae’r Orsaf newydd gyflogi Swyddog Awyr Agored a gwelir y potensial o ddatblygu cyrsiau hamddena a twristiaeth i fynd law yn llaw gyda’r Adran Addysg Gorfforol.

Adnabu’r gweithgor gyfle i greu canolfannau rhagoriaeth ar draws ardal Arfon. Byddai’r gweithgor yn dymuno gweld cydweithio rhwng ysgolion Arfon.

Mae’r dysgwyr wedi dod i’r arfer gyda dysgu ar-lein ers Mawrth 2020.  Mae datblygiadau cyffrous wedi cymryd lle mewn darpariaeth addysg ar-lein yn ystod  y 9 mis diwethaf mewn ymateb i argyfwng  Cofid-19. Yn sgil yr argyfwng mae’r  datblygiadau wedi bod yn adweithiol. Byddai’r gweithgor yn dymuno gweld datblygiadau pellach yn y posibilrwydd o addysgu cyfunol a bod buddsoddiad yn parhau yn y maes yma.

Buddsodda Llywodraeth Cymru’n sylweddol mewn cynllun gliniaduron i ysgolion ar draws y Gogledd. Mae’r cynllun yma yn un arloesol ac yn rhoi’r cyfle gorau i ddysgwyr Cymru. Bydd y cynllun hefyd yn cyd-fynd gyda darpariaeth addysg gyfunol. Wrth gwrs, yn ystod y cyfnod Cofid-19 amlygwyd y tlodi digidol ond wrth gwrs byddai’r cynllun gliniaduron yn lliniaru hyn.

Mae dysgu o bell wedi bod mewn lle ers tro byd ond mae’r datblygiadau mewn dysgu o bell ers y naw mis diwethaf wedi bod ar raddfa bell gyrhaeddol. Mae’n annhebygol pan fydd Cofid-19 wedi’i orchfygu y byddwn yn mynd yn ôl i’r hen drefn. Er gwaethaf blinderau Cofid-19 bydd ambell etifeddiaeth positif yn sgil y pandemic. Un o’r etifeddiaethau hyn fydd yn maes gweithio ac addysgu o bell. Mae’n annhebygol y byddwn yn gweld  swyddogion yr awdurdod yn trafeilio ar hyd yr A55 i gyfarfodydd rhanbarthol neu uwch reolwyr a chyfarwyddwyr yn hedfan lawr a fyny o Gaerdydd i gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru fel oedd yn gyffredin cyn Cofid-19. Mae’n debyg iawn mai  ar-lein bydd y cyfarfodydd yma’n parhau o hyn ymlaen.

Mae’r gweithgor yn ymwybodol iawn o gyfyngderau dysgu o adref a pha mor anodd oedd profiad disgyblion o 3 oed i 18 oed yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Wrth gwrs nid yw’r gweithgor yn awgrymu dylai profiad dysgu ôl-16 fod yn gyfan gwbl o bell. Yr hyn a awgrymir ydi bod dysgu cyfunol yn parhau gyda chanolfannau rhagoriaeth ar draws ysgolion Arfon yn cael eu sefydlu.

Mae’r syniad o adeiladu campws enfawr yn y tirlun cyfredol yn rhywbeth gwrthun iawn. Nid oes ond angen trafeilio drwy Fae Colwyn a gweld adeilad newydd sbon Cyngor Conwy yn wag a segur yn brawf o hyn. Yn sgil trend o weithio o adref mae’n annhebygol y gwelir canolfannau fel yr un ym Mae Colwyn yn llawn er gwaethaf y cyfleusterau modern.  Mae’r gweithgor hefyd yn pryderu am effaith amgylcheddol adeiladu campws o’r fath a’r cynnydd mewn traffig fyddai yn cael ei grynhoi mewn un ardal benodol.

I grynhoi, mae’r gweithgor yn dymuno gweld parhad o Addysg ôl-16 o fewn Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn wir o fewn ysgolion eraill Arfon.  Gwêl y gweithgor gyfle i ddatblygu addysg ôl-16 ac i greu perthnasoedd cryfach o fewn y ddarpariaeth ôl-16 ar draws Arfon drwy sefydlu canolfannau rhagoriaeth a buddsoddi mewn addysg cyfunol.

 

Sara Lloyd Evans

Cadeirydd Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle

 

Hoffai’r holl athrawon ddiolch o galon i’r disgyblion sydd wedi bod yn gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf yma. Rydych chi wedi gweithio’n annibynnol mewn sefyllfa mor estron i ni gyd – dim ond gobeithio y cawn eich croesawu yn ôl i’r dosbarth mor fuan â phosib. Hen le oer ydi ysgol heb blant!