Cymorth i entrepreneuriaid y fro!

Awydd Cychwyn Busnes? Mae cymorth ar gael gan brosiect Llwyddo’n Lleol 2050

gan Jade Owen

Rhaglen hyfforddiant busnes ac chymorth ariannol o £1000 i gefnogi busnesau sydd yn ymateb i heriau gymdeithasol.

Mae cynllun gan Menter Môn, Llwyddo’n Lleol 2050, yn cynnig cefnogaeth unigryw i griw o bobl ifanc sydd ag awydd datblygu syniad busnes eu hunain. Dyma gyfle i dderbyn hyfforddiant busnes dros gyfnod o deg wythnos yn ogystal â chefnogaeth ariannol o £1000 a fydd yn helpu symud syniadau busnes yn ei flaen.

Bydd y cynllun yn cefnogi syniadau busnes sydd yn ymateb i her gymunedol. Gall fod yn her sydd yn effeithio ar gymuned daearyddol neu grwp o bobl. Dyma gyfle gwych i greu gwelliant cymunedol, datblygu sgiliau busnes hanfodol, gan hefyd fod yn rhan o brosiect sydd yn cefnogi pobl ifanc i lwyddo ym mro eu mebyd.

Mae ceisiadau nawr ar agor. Er mwyn ymgeisio bydd angen bod rhwng 18-30 oed a bydd angen byw neu fod yn wreiddiol o Wynedd neu Môn. Bydd dyddiad cau ceisiadau Ionawr 7fed. Cysylltwch â Jade@mentermon.com am wybodaeth pellach neu ar gyfer ffurflen gais i ymgeisio.

Cyllidir y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

********

Business training and £1000 financial assistance program to support businesses that respond to social challenges.

Menter Môn’s Llwyddo’n Lleol 2050 scheme is offering a unique opportunity for local young people to receive training and financial support of a £1000 to develop their own business idea. Training will take place over a ten-week period, offering a chance to learn from experts, create valuable contacts and move their business ideas forward.

To take part in the scheme the business idea must respond to a community issue or challenge. A community could be a geographical area or a group of people. This is a great opportunity to bring about community improvement, gain valuable business skills, whilst also being part of a project that supports young people to succeed in their local area.

Applications are now open. To apply you’ll need to be aged between 18-30 years and either live or be originally from Gwynedd or Anglesey. Applications close January 7th. For further details or for an application form please contact jade@mentermon.com.

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It’s also part funded by the Nuclear Decommissioning Authority (NDA) and Gwynedd Council.