Cyhoeddi addasiad o lyfr Nadoligaidd gan ’sgwennwr o’r Groeslon

Mae’r addasiad Cymraeg yn cael ei gyhoeddi wrth i’r Nadolig agosáu

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae Parsel Coch yn addasiad o’r fersiwn Almaeneg wreiddiol gan Linda Wolfsgruber a Gino Alberti.

 

Ond wrth i’r Nadolig agosáu, mae Llio Elenid Owen o’r Groeslon wedi addasu’r gyfrol i’r Gymraeg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch.

 

Mae’r Parsel Coch yn stori Nadoligaidd ei naws am roi a derbyn anrhegion. Yn ôl Gwasg Carreg Gwalch, “mae’n gyfrol werth chweil i’w chyflwyno yn anrheg a fydd yn aros yn hir yn y cof.”

 

Yn y lansiad byr ar dudalen Facebook Gwasg Carreg Gwalch heddiw, mae Llio Elenid yn trafod cyd-destun Ewropeaidd y gyfrol, sy’n addasiad Cymraeg o argraffiad Almaeneg, wedi’i darlunio gan Gino Alberti o’r Eidal, wedi’i hargraffu yn Slofacia a’i chyhoeddi’n wreiddiol gan wasg o Swistir.

 

Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi rhoi blas ar y gyfrol heddiw, gallwch ei wylio drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Pris y gyfrol yw £7.95, a gallwch gael gafael ar gopi yn eich siop lyfrau Cymraeg annibynnol, ar wefan Gwasg Carreg Gwalch, neu ar wefan Gwales.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.