“Cyfnod cau’r chwareli yn parhau i daflu cysgod dros y dyffrynnoedd llechi” medd AS mewn araith

Cyfeiriodd hefyd at gau “ffatri Northwood ym Mhenygroes mewn ffordd gwbl ddi-drugarog.”

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Unknown

Gwnaeth yr AS lleol ei hanerchiad o’i phentref genedigol, y Felinheli, yn unol â rheoliadau Covid-19.

Mewn araith i aelodau Plaid Cymru fel rhan o’i chynhadledd Wanwyn mae Siân Gwenllian AS wedi honni fod “cyfnod cau’r chwareli yn parhau i daflu cysgod dros y dyffrynnoedd llechi.”

Gwnaeth yr AS lleol ei hanerchiad o’i phentref genedigol, y Felinheli, yn unol â rheoliadau Covid-19.

 

Soniodd am ei “hen-Daid a oedd yn chwarelwr yn y Cilgwyn” a bod “cyfnod cau’r chwareli yn parhau i daflu cysgod dros y dyffrynnoedd llechi.”

 

Yn ei haraith honodd yr AS bod;

 

“Cwmnïau mawr o’r tu allan wedi creu gwaith am ’chydig – ond cau mae nhw yn y diwedd – a chau ddaru ffatri Northwood ym Mhenygroes mewn ffordd gwbl ddi-drugarog.

 

“Fedrwn ni ddim dibynnu ar gwmnïau a’u pencadlysoedd ymhell o’r ardal.

 

“Mae gwytnwch y dyfodol yn mynd i ddeillio o’n ymdrechion ni ein hunain.

“Rhaid i ni barhau i greu cadwyn gref o fusnesau a chwmnïau lleol a chryfhau’r cysylltiad rhyngddyn nhw a’r sector cyhoeddus.

 

“A rhaid i ni hyrwyddo mentrau cymdeithasol a harneisio’r awydd i lwyddo’n lleol ym myd busnes.”

Mae’r AS wedi cynrychioli Dyffryn Nantlle fel rhan o etholaeth Arfon yn Senedd Cymru ers 2016.

Cyfeiriodd yr AS hefyd at “roi hwb economaidd i orllewin Cymru”, yn ogystal â darparu tai addas, addysg, yr amgylchedd a’r Gymraeg.