Crynodeb o gemau Mis Medi tîm cyntaf Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

Fideo: Gôl Ashley Owen v Brickfield Rangers

Cychwynoedd y gemau mis yma oddi cartref erbyn Brickfield Rangers (4/9)  mewn gêm gwpan y gyngrhair.Aeth yn syth i giciau o’r smotyn ar ôl gôl hwyr gan Ashley Owen i wneud y sgôr yn gyfartal 1-1.Enillodd Fêl ar giciau o’r smotyn gyda’r sgôr terfynol yn 3-1 i’r Fêl.Llongyfarchiadau hogiau am sicrhau eu lle yn y rownd nesaf?

Y derbi leol fawr oedd Nos Fawrth (7/9) erbyn Porthmadog oddi cartref gyda drost  200 yn gwylio.Y sgôr terfynol oedd Porthmadog 2 Nantlle Vale 1 ar ôl gôl cynnar yn yr hanner cyntaf,  Dan Evs rhoddodd Vale ar y blaen 1-0 erbyn hanner amser.Brwydrodd yr hogiau trwy’r naw deg munud ond methodd y bêl gyrraedd cefn y rhwyd yn yr ail hanner.

Ar ôl siom erbyn Porthmadog yng nghanol yr wythnos rhoddodd Fêl gêm gyffrous iawn  erbyn Rhydymwym adref   (11/9).Sgôr terfynol oedd 5-0 gyda’r goliau arbennig gan Dan Evs x 2, Jamie Jones, Aeron Williams ac Osian Tudur.Braf iawn oedd gweld chwaraewyr ifanc y clwb yn sgorio.

Taith i Llay Welfare oedd yn wynebu’r tîm penwythnos wedyn  (18/9) gan gael gêm anodd a rhwystredig .Sgôr siomedig iawn i orffen y gêm  Llay Welfare 5 Nantlle Vale 2.Goliau gan Cai Moran a Jamie Thomas.Da iawn hogiau am gadw eu pennau fyny nes at y chwiban olaf.

Gorffennwn fis Medi  gan groesawu  Brymbo i Faes Dulyn, y sgôr terfynol oedd Nantlle Vale 4 Brymbo 1.Goliau gan Ashley Owen, Aaron Davies-Thomas, Ales Hughes a Harri Hughes.Perfformiad ffantastig hogiau!!

Dydd Sadwrn yma, Ail o Hydref bydd ein tîm cyntaf yn trafeilio i gae newydd Llanuwchllyn ar gyfer gêm.Bydd y gic gyntaf am 14:30.Dewch draw i gefnogi’r hogiau.�

Cofiwch mae’r holl fideo uchafbwyntiau o’r gemau ar Facebook/instagram/Twitter y clwb.

Diolch yn fawr?