Comisiwn Celf Gyhoeddus ym Mhenygroes

Cyfle i artist lleol greu darn o gelf parhaol yn y pentref

greta
gan greta

Mae Dyffryn Nantlle 2020 wedi sicrhau arian trwy nawdd Cronfa Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol a thrwy’r cynllun ‘LleCHI’ a ariennir trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu”r comisiwn hwn sy’n rhoi cyfle i artist lleol greu darn o gelf gyhoeddus.

 

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Yr Orsaf Cymunedol ac maent yn awyddus i gomisiynu gwaith celf barhaol i’w osod ym Mhenygroes a hynny drwy gynnwys mewnbwn pobl ifanc y Dyffryn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn creu a gosod y gwaith terfynol yn y gymuned (mewn lleoliad i’w benderfynu).

Gall hwn fod yn waith creadigol megis cerflun, ond mae diddordeb arbennig mewn gwaith celf sydd ag iddo ddefnydd ymarferol e.e. mainc, cysgodfa, rhywbeth all plant ei ddefnyddio ayyb . Gall fod yn un darn o gelf neu gyfres o waith celf.

Mae’r comisiwn hwn yn cynnwys gweithgareddau yn canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedol, yn arbennig gyda phobl ifanc , grymuso lleol, gwella cyrchfannau, adfywio cymunedol ac adeiladu perthnasau.

Mae cymuned Penygroes wedi adnabod yr angen i ddehongli a rhannu eu straeon unigryw gyda thrigolion ac ymwelwyr fel cyfle i adfywio’r gymuned. Er mwyn ymateb i ddyhead y gymuned, mae DN2020 yn gweld cyfle i gomisiynu gwaith celf weledol trwy’r nawdd ariannol a nodir.

Os oes gennych chi ddiddordeb gwneud cais neu i dderbyn copi o’r brîff llawn, cysylltwch â Greta (Cydlynydd y prosiect): greta@yrorsaf.cymru neu 07410 982467.