Cofio Maldwyn Rhafod

Teyrnged i gofio am Maldwyn Hughes

gan Mari Wyn Hughes

Maldwyn Hughes – Gŵr ei filltir sgwâr.

Ar Fai’r 13eg 1930 daeth Maldwyn Hughes i’r byd, yn ail fab i Mordecai a Meri Lina Hughes a brawd bach i Emlyn. Ei gartref genedigol oedd Hafod Caeronwy, y Fron, a hyd heddiw cai ei adnabod fel Maldwyn Rhafod.

Treuliodd flynyddoedd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bronyfoel, Fron, cyn symud I Ysgol Penfforddfelan ar gyrion Groeslon. Ar ôl ymadael ar Ysgol, a ffermio yn ei waed, mi fu’n rhoi help llaw I gymdoges leol sef Elin Jane, Geulan, Nantlle am sawl blwyddyn tra’n parhau i amaethu gartref.

Pan yn ifanc roedd o yn un am fynychu Eisteddfodau ac wedi teithio dros ogledd Cymru a chyn belled ac Aberystwyth i’w mynychu. Roedd taid yn mwynhau cerddoriaeth Cymraeg ac yn wrandawr brwd ar raglen ar eich cais gyda Dai Jones ar nos Sul.

Yn hogyn ifanc, Guto Ellis, Gelli a John Ffridd oedd ei ffrindiau pennaf. Tri mab fferm ai gwreiddiau yn ddwfn yn Nyffryn Nantlle.

Mi fu gyfarfod a Rhiannon, ac ar y 30fed o Dachwedd 1957 priododd y ddau yng Nghapel Ebenezer yng Nghaernarfon, priodas o bron I 64 o flynyddoedd. Cychwynnodd y ddau eu bywyd priodasol wedi ymgartrefu yn Plas, Fron, ble yn 1959 ganwyd y cyntaf o bedwar o blant iddynt, Ceren, gan ddilyn gyda Llinos yn 1961, Bryn yn 1964 a Deio yn 1972. Roedd yn dad heb ei ail ac wedi bod yn gefn mawr i’w blant, wedi eu hybu yn eu blaenau a’u cefnogi beth bynnag a ddaw.

Treuliodd y teulu flynyddoedd hapus iawn yn Plas cyn symud I Pennant, Ffrwd Cae Du.

Fel aeth amser yn ei flaen, daeth wyrion a wyresau yn eu tro. Ifan, Ceren, Mari, Gwawr, Guto, Gerallt, Gwion a Sion. Roedd taid yn daid balch iawn, yn barod iawn i estyn llaw, tynnu coes a’i ddannedd gosod! Ac wrth ir teulu barhau I dyfu, roedd bellach yn hen daid I wyth o blantos bach. Elgan, Llio, Myfyr, Abner, Robin, Lina, Lois a Tegid, ac er ei waeledd, bob tro y clywai’r geiriau ‘taid Mald’ deffrai drwyddo a gwelir y wen yn ei lygaid.

Main deg dweud, ar ôl teulu, mai amaethyddiaeth oedd canolbwynt ei fywyd, o’i darddiad yn yr Hafod, cyn symud i Ffridd o 1989 ymlaen. Byddai’n hoff o fynd a stoc am Sêl Llangefni I sgwrsho hefo hwn a llall, yn wir roedd pawb yn ei nabod o, a phan oedd yn hogyn ifanc, fo oedd y cyntaf yn yr ardal i brynu peiriant Cneifio yn lle gwella, ble fuodd o yn mynd rownd yn lleol I gneifio am flynyddoedd. Ac fel arwydd o’r amser, mi fu berchen ar aml i geffyl a daw lu o hanesion lliwgar o’r ceffylau oedd ganddo fo ar plant yn Fron. Ac yntau wedi ei eni ai fagu wrth droed mynydd grug roedd ci defaid da yn hanfodol, ac mi fyddai ffermwyr cyfagos yn galw arno am gymorth I hel, gan fod ‘gan Maldwyn Rhafod gwn da’!

Un o bleserau taid oedd cael mynd I hela llwynog, o’i ddyddiau ifanc gyda daeargi a gwn, I ddilyn yr hounds, arbedwyd sawl oen bach o’i ymdrech dwi’n siŵr. Yn wir, mae’r draddodiad wedi egin diddordeb yn y cenedlaethau nesaf a dwi’n siŵr ei fod o yn falch iawn o hynny.

Roedd bwyd da yn bwysig iawn i Taid. Roedd o wrth ei fodd yn mynd am Griccieth am Fish a Chips, neu ddenig am siop coco bach am cream cake ac yn cysgu ar ol pob cinio Dolig! Doedd fyw i neb ddeud dim byd am ei fol o. “Mi fydd hwnna yn gefn i fi riw ddiwrnod” fyddai’n ddeud, syn hollol wir. Ac er iddo ddioddef stroc annisgwyl wyth mlynedd yn ôl, er ei waeledd, roedd bwyd yn bwysig iawn ganddo, a drwy ymroddiad a chariad Ceren a Llinos i’w fwydo a gofalu amdano, cafodd wyth mlynedd gwerthfawr yng nghwmni ei deulu ar ddiwedd ei oes.

Wrth i ni adlewyrchu yn ôl ar ei fywyd, ymfalchiwn ynddo ni fel teulu ein bod yn medru galw Maldwyn Rhafod yn ŵr, yn dad, yn dad yng nghyfraith, yn daid, yn hen daid, yn ewyrth ac yn gymydog. Ystyr yr enw Maldwyn ydi “ffrind dewr” ac yn sicr mi oedd yn un o’r rheini i sawl un.