Cinio ‘Dolig

12:00 – 15:30 yn Neuadd Goffa Penygroes– 

Yr Orsaf
gan Yr Orsaf

Mae Yr Orsaf yn cynnal cinio Nadolig ac adloniant ar gyfer cymdogion Dyffryn Nantlle dros 60 oed ar y 13eg o Ragfyr, rhwng 12 a 15:30 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes.

Mi fydd y drysau ar agor am 12:00 a’r cinio ar gael am 12:30. Bydd adloniant Nadoligaidd yn dilyn am 2 o’r gloch.

Mi fydd angen cadarnhau eich lle gan un ai ffonio Elenid ar 07596325496 neu drwy e-bost: elenid.yrorsaf@gmail.com

Mi fydd Yr Orsaf hefyd yn gallu trefnu trafnidiaeth i bwy bynnag sydd ei angen am dâl.