Cerdd-ed

Mae prosiect Cerdd-ed eisiau annog pobl i ddarganfod mwy am eu hardal leol.

Yr Orsaf
gan Yr Orsaf

Mae prosiect Cerdd-ed eisiau annog pobl i ddarganfod mwy am eu hardal leol. Mae’r prosiect yn gobeithio rhannu gwybodaeth am lwybrau cerdded Dyffryn Nantlle, ei hanes, diwylliant, celf a natur o’n hamgylch. Y gobaith yw dangos y dewis o bethau sydd i’w weld ac annog pobl i fynd ymlaen a dysgu mwy am eu hardal.

I wneud hyn mae’r Orsaf wedi creu llyfryn sy’n cynnwys 6 llwybr o amgylch y dyffryn; o Nebo i Rostryfan. Mae’r llwybrau yn annog pobl i ymweld â’r ardaloedd a dysgu storïau Dyffryn Nantlle, megis chwedlau’r Mabinogi, barddoniaeth R. Williams Parry, a thirwedd y chwareli. Mae’r llyfryn ar gael yn yr Orsaf yn awr, a byddai’n gwneud anrheg Nadolig gwych i’r hosan!

Ar ben hyn mae’n bosib gweld y llwybrau ar ein gwefan. Mae’r wefan yn cynnig mwy o wybodaeth am y llwybrau na’r llyfryn, ac mae’n hawdd neidio ar y wefan os oes gennych y llyfryn, tra’n defnyddio’r Cod MR sydd i’w weld yn y llyfryn. Does dim ond angen sganio’r côd gyda chamera eich ffôn.

Felly ewch ymlaen i ddarganfod mwy am Ddyffryn Nantlle!