Mae’r cynllun i greu canolfan iechyd a lles ar hen safle Express Motors yng nghanol Penygroes gam yn nes wrth i’r gwaith o ddymchwel yr hen adeiladau ddirwyn i ben.
Yn ôl Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru, mae’r cynllun yn “deillio’n rhannol o gyfarfod cyhoeddus gynhaliwyd gan Blaid Cymru yn y pentref yn Hydref 2017 pan leisiwyd pryderon am brinder doctoriaid a’r angen am gyfleusterau modern i wasanaethu’r ardal.”
Dywedodd y gwleidydd lleol;
“Ar ôl i bobol leol leisio eu pryderon, cynhaliwyd cyfarfodydd efo’r doctoriaid lleol a phartneriaid fel y bwrdd iechyd a Grŵp Cynefin.
“Rydym yn falch bod prosiect 20 miliwn wedi cychwyn ac edrychwn ymlaen i weld y cynlluniau manwl ar gyfer y safle.
“Mae llawer o waith wedi ei gyflawni yn barod ac rydym yn falch o fod wedi gallu gweithio efo’r gymuned a’r partneriaid i gyrraedd y cam pwysig hwn o glirio’r safle.
“Rydym yn hyderus y bydd y cyfleusterau newydd yn denu meddygon ac ymarferwyr iechyd newydd i’r ardal fydd yn ei dro yn gwella iechyd a gofal pobol yr ardal.”